Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth talu ar-lein newydd AGIC

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi lansio gwasanaeth newydd sy'n galluogi'r holl wasanaethau sydd wedi'u cofrestru gyda ni i dalu eu ffioedd blynyddol ar-lein.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi lansio gwasanaeth newydd sy'n galluogi'r holl wasanaethau sydd wedi'u cofrestru gyda ni i dalu eu ffioedd blynyddol ar-lein. Mae'r gwasanaeth ar-lein yn fwy cyfleus, diogel, hawdd i'w ddefnyddio ac ar gael drwy'r dydd, bob dydd.

Rydym wedi lansio'r gwasanaeth newydd hwn i gyd-fynd â thalu ffioedd cofrestru blynyddol deintyddion ar gyfer practis preifat, a ddisgwylir ym mis Ebrill bob blwyddyn. Os ydych chi wedi cofrestru cyn 31 Mawrth 2019, byddwn yn anfon anfoneb atoch drwy'r e-bost cyn diwedd Ebrill.

Er bod ein system newydd yn ddiogel ac yn llawer mwy cyfleus, mae'r opsiynau i dalu drwy drosglwyddiad banc, neu drwy dalu â cherdyn dros y ffôn, neu drwy siec drwy'r post yn dal i aros.

Os cewch unrhyw broblemau wrth geisio gwneud taliad ar-lein, cysylltwch â ni ar 0300 062 8163 neu e-bostiwch HIW@llyw.cymru

Os ydych chi eisoes wedi defnyddio'r gwasanaeth, hoffem ni gael eich adborth ar y profiad - o dderbyn yr anfoneb trwy i dderbyn e-bost cadarnhau. Anfonwch e-bost at HIW@llyw.cymru gyda llinell deitl Adborth Taliadau yn yr e-bost.