Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd ar wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru.
Edrychodd ein hadolygiad ar a yw pobl yn derbyn y gofal, y driniaeth a'r cymorth sydd arnynt eu hangen.
Yr hyn a wnaethom
Gwnaethom ystyried y cwestiynau canlynol:
- A yw'r driniaeth a gynigir yn iawn i bobl?
- A yw pobl yn gallu cael y driniaeth sydd arnynt eu hangen?
- A yw pobl yn derbyn gofal cydgysylltiedig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gan wasanaethau?
- Sut mae pobl, eu teuluoedd a'r rhai hynny o'u cwmpas yn cael eu diogelu?
- Beth sy'n digwydd pan fydd triniaeth pobl yn dod i ben?
- Pa mor dda caiff gwasanaethau eu harwain a'u rheoli?
Er mwyn ateb y cwestiynau hyn, gwnaethom gynnal arolygon cenedlaethol a grwpiau ffocws ar hyd a lled Cymru ar gyfer pobl sy'n defnyddio gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a staff gwasanaeth. Gwnaethom gynnwys dros 850 o bobl a staff i gyd yn yr adolygiad. Gwnaethom hefyd edrych ar y saith Bwrdd Cynllunio Ardal yng Nghymru sy'n gyfrifol am gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Datblygwyd ein harolygon cenedlaethol ar sail arolygon a ddefnyddiwyd gan Arolygiaeth Gofal yr Alban yn eu hadolygiad o Bartneriaethau Alcohol a Chyffuriau yn ystod 2016-2017. Cawsant hefyd eu trosi ar fformat hawdd eu darllen a'u peilota gyda grŵp bychan o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau camddefnyddio sylweddau er mwyn sicrhau bod y cwestiynau'n briodol.
I'n helpu ni gydag ein hadolygiad, gwnaethom weithio'n agos ag adolygwyr cymheiriaid sy'n weithwyr iechyd meddwl proffesiynol â phrofiad o weithio mewn neu weithio'n agos â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Gwnaethom ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau'r adolygwyr cymheiriaid i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arfer cyfredol a phrofiad, er mwyn amlygu arferion da a nodi meysydd o bryder.
Yr hyn a ganfuom
Yn gyffredinol, canfu AGIC ac AGC fod pobl yn derbyn gofal da gan staff brwdfrydig a gofalgar, ond mae'r mynediad i wasanaethau ledled Cymru'n anghyson ac yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig. Yn benodol, roedd pobl yn ei chael hi'n anodd cael y driniaeth yr oeddent ei hangen gan amnewidion a ragnodwyd (e.e. methadon), dadwenwyno, adsefydlu a gwasanaethau cwnsela, oherwydd amseroedd aros hir a phrinder o allu mewn gwasanaethau.
Canfyddiadau cadarnhaol:
- Roedd pobl yn gadarnhaol ynghylch y gofal roedden nhw'n ei dderbyn gan wasanaethau
- Mae'n amlwg bod staff yn gweithio'n galed ac yn frwdfrydig ynghylch darparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Roedd pobl yn gadarnhaol ynghylch y cymorth parhaus ar y cyfan, ac ynghylch buddion rhaglenni adfer ac ôl-ofal
- Gwelir meysydd o arfer da mewn rhai ardaloedd, ond mae angen cysondeb a mwy o gydweithio ledled Cymru.
Prif feysydd i'w gwella:
- Mae angen mwy o gydweithio rhwng gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, gofal eilaidd, gofal sylfaenol, gwasanaethau cymdeithasol ac, yn benodol, gwasanaethau iechyd meddwl, fel y gellir diwallu anghenion pobl mewn modd holistaidd. Dywedodd pobl yn aml eu bod yn ei chael hi'n anodd cael help gyda'u problemau iechyd meddwl oherwydd eu bod yn camddefnyddio sylweddau, a gwnaethant ddisgrifio sut yr oeddent yn cael eu pasio yn ôl ac ymlaen rhwng gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau iechyd meddwl.
- Mae angen adolygu'r amseroedd aros a'r llwybrau gofal er mwyn sicrhau y gall pobl gael mynediad cyflym i'r driniaeth sydd ei hangen arnynt o ran cymryd amnewidion a ragnodwyd, dadwenwyno, adsefydlu a gwasanaethau cwnsela.
- Mae angen gwasanaethau mwy hyblyg ac allgymorth mewn cymunedau, gyda chymorth y tu allan i oriau ac ar benwythnosau er mwyn galluogi pobl i gael yr help sydd ei angen arnynt ar adegau o argyfwng pan allent fod mewn mwy o berygl o ailwaeledd a gorddosio.
- Mae angen mwy o ymwybyddiaeth o gamddefnyddio sylweddau ledled Cymru ymhlith y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol er mwyn gwneud y canlynol:
- Gwella gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael fel bod pobl yn gwybod o le i gael help
- Lleihau'r stigma y mae pobl yn ei wynebu wrth ryngweithio â gweithwyr proffesiynol a chynyddu dealltwriaeth
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi gwendidau goruchwylio a rheoleiddio o ran ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Mae angen cryfhau'r llywodraethu sy'n ymwneud â diogelu a gwenwyno cyffuriau hefyd er mwyn sicrhau y gall Byrddau Cynllunio Ardal nodi, monitro a gweithredu'n gyflym ar themâu a materion sy'n codi ar draws yr holl wasanaethau er mwyn amddiffyn diogelwch pobl.
Mae llawer o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn debyg i'r rhai a nodwyd gan AGIC yn ei adroddiad blaenorol ar gamddefnyddio sylweddau yn 2012.
O ganlyniad i'n canfyddiadau, rydym wedi cyflwyno 34 o argymhellion i Fyrddau Cynllunio Ardal a/neu Lywodraeth Cymru eu hystyried. Gellir cael rhagor o wybodaeth am ein canfyddiadau a'n hargymhellion yn yr adroddiad isod.
Dogfennau
-
Adolygiad o Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru Adroddiad Thematig ar y Cyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MBCyhoeddedig:4 MB