Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru – Mawrth 2012

Adolygiad o ddarpariaeth Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau ledled Cymru.

Nod yr adolygiad oedd ateb dau gwestiwn sylfaenol:

  • A yw gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn diwallu anghenion pawb sy’n camddefnyddio sylweddau? ac
  • A yw teuluoedd pobl sy’n camddefnyddio sylweddau yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen?.

Yn ystod yr adolygiad, clywodd AGIC gan ddefnyddwyr gwasanaeth am eu profiadau eu hunain, a gweithiodd gyda darparwyr gwasanaethau, cyrff statudol a chomisiynwyr i archwilio sut y mae asiantaethau a gwasanaethau yn cydweithio i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd.

Canfuwyd bod rhai gwasanaethau rhagorol, arloesol a llwyddiannus ym maes camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, yn ogystal â gweithlu brwdfrydig a diflino sy’n sbarduno gwelliannau.

Fodd bynnag, er bod y darlun yn gwella yn gyffredinol, mae safon y gwasanaethau ledled Cymru yn parhau i fod yn amrywiol ac mae angen gwneud mwy i sicrhau eu bod yn gyson ac yn gynaliadwy.

Yn fwyaf hanfodol o bosibl, canfuwyd bod teimlad o warth yn parhau i fod yn gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, oherwydd y cysylltiad â throsedd yn ogystal â’r syniadau ystrydebol a geir yn aml ynglŷn â phwy sy’n camddefnyddio sylweddau. Mae angen cydweithio i fynd i’r afael ag agweddau’r gymdeithas gyfan, er mwyn lleihau’r rhwystrau sy’n atal unigolion rhag derbyn triniaeth, ac er mwyn sbarduno gwelliannau yn y driniaeth honno.