Neidio i'r prif gynnwy

Heriau mawr o hyd i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

“Mae angen gwelliannau sylweddol mewn sawl maes,” yn ôl adolygiad ar y cyd o'r trefniadau llywodraethu ansawdd

Mae nifer o wendidau sylfaenol yn nhrefniadau llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer sicrhau diogelwch cleifion ac ansawdd gofal, yn ôl adolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Swyddfa Archwilio Cymru. 

Mae'n mynegi pryder bod y gwendidau yn cael effaith andwyol ar allu'r Bwrdd Iechyd i nodi problemau o ran ansawdd gofal a diogelwch cleifion ac ymateb iddynt.

Yn dilyn pryderon ynghylch gwasanaethau mamolaeth y Bwrdd Iechyd, a gafodd gyhoeddusrwydd eang, aeth yr adolygiad ar y cyd ati i ystyried dull cyffredinol y sefydliad o lywodraethu ansawdd. Er gwaethaf y ffocws cryf ar gydbwysedd ariannol a chyrraedd targedau allweddol, nododd nad oes cymaint o sylw wedi cael ei roi i ansawdd a diogelwch cyffredinol ei wasanaethau.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen am arweinyddiaeth gryfach ac ehangach mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch cleifion ac yn cyfeirio at ddiwylliant o ofn a bwrw bai yn rhai rhannau o'r sefydliad sy'n atal aelodau o'r staff rhag lleisio barn a chodi pryderon. Mae hyn yn destun pryder.

Mae angen atgyfnerthu'r trefniadau ar gyfer goruchwylio ansawdd a diogelwch gwasanaethau ar lefel cyfarwyddiaethau a sicrhau eu bod yn fwy cydnaws â rolau a chyfrifoldebau wedi'u diffinio'n gliriach a gwell prosesau busnes. Yn hanfodol, mae angen newid dull gweithredu'r sefydliad er mwyn galluogi cyfarwyddiaethau i gymryd mwy o berchenogaeth dros ymateb i bryderon a chwynion.

Yn ehangach, nododd yr adolygwyr fylchau mewn trefniadau llywodraethu allweddol o ran rheoli a nodi risg, a darparu gwybodaeth i gefnogi gwaith craffu effeithiol gan y bwrdd a'i bwyllgorau. Tynnwyd sylw hefyd at yr angen i wella'r ffordd y caiff digwyddiadau eu dosbarthu a'r drefn ar gyfer rhoi gwybod amdanynt.

Er bod yr adolygiad yn tynnu sylw at nifer sylweddol o bryderon, mae'n nodi bod y Bwrdd Iechyd wedi dechrau cymryd camau i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Mae'n tynnu sylw hefyd at yr effaith y mae'r arweinwyr newydd yn dechrau ei chael wrth fynd i'r afael â chyfres sylweddol o heriau.

Mae'r adroddiad yn gwneud 14 o argymhellion penodol i'r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys:

  • Nodi blaenoriaethau sefydliadol clir ar gyfer ansawdd gwasanaethau, a'u hadlewyrchu mewn Strategaeth Ansawdd wedi'i diweddaru;
  • Atgyfnerthu'r broses o nodi a rheoli risg ym mhob rhan o'i wasanaethau;
  • Egluro rolau ac atgyfnerthu arweinyddiaeth mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch, yn enwedig mewn perthynas â rolau'r Cyfarwyddwr Meddygol a'r Cyfarwyddwr Clinigol;
  • Nifer o gamau gweithredu er mwyn helpu i atgyfnerthu'r trefniadau ar gyfer craffu ar ansawdd a diogelwch a'u goruchwylio yn y sefydliad;
  • Ymgysylltu â'r staff er mwyn helpu i roi fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiad newydd ar waith, ac er mwyn cymryd camau gweithredu ehangach i ddangos dull gweithredu cryfach mewn perthynas â dysgu sefydliadol.

Meddai Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

"Mae canfyddiadau ein hadolygiad ar y cyd yn peri pryder. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi parhau i ganolbwyntio ar ei gyllid a thargedau perfformiad eraill, a hynny'n briodol, nid yw wedi rhoi sylw dyledus i ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ganddo. Mae angen gweithredu ar frys er mwyn unioni'r sefyllfa a helpu staff rheng flaen i ddarparu gofal sy'n ddiogel ac o ansawdd uchel".

Meddai Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru:

"Mae her sylweddol yn wynebu'r Bwrdd Iechyd. Mae agweddau sylfaenol ar y trefniadau llywodraethu ansawdd wedi mynd ar eu gwaethaf ac mae angen cymryd camau brys yn awr i ailadeiladu'r systemau mewnol hynny ac ailfeithrin hyder o'r tu allan yn y Bwrdd Iechyd. Mae'r arweinwyr newydd, y mae ganddynt syniad clir o'r newidiadau sydd eu hangen, yn cynnig rhywfaint o obaith ond bydd angen iddynt gymryd camau cadarn a chyflym er mwyn rhoi'r newidiadau niferus sydd eu hangen ar waith".

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod agwedd agored a thryloyw y Bwrdd Iechyd wrth gefnogi'r adolygiad ar y cyd ac yn annog cyrff eraill y GIG i roi ystyriaeth ofalus i'w ganfyddiadau wrth adolygu eu systemau llywodraethu ansawdd eu hunain.

Adolygiad o drefniadau llywodraethu ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Adolygiad o drefniadau llywodraethu ansawdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Hawdd ei Darllen

Adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ansawdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Cynllun gwella uniongyrchol