Mae AGIC a AC wedi cynnal adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ansawdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Cafodd y gwaith arfaethedig hwn ei flaenoriaethu ar frys ar ôl cyhoeddi adroddiad hynod o feirniadol ar wasanaethau mamolaeth gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd ym mis Ebrill 2019.
Mae'r adolygiad wedi ystyried sut y mae trefniadau llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn sicrhau y darperir gwasanaethau effeithiol, diogel ac o ansawdd uchel, a bydd yn cynnwys ffocws penodol ar drefniadau o fewn y gyfarwyddiaeth lawfeddygol.
Gellir gweld cylch gorchwyl, yr adolygiad, fersiwn hawdd i ddarllen a chynllun gwella isod.
Gellir gweld gwybodaeth am y ffordd y mae AGIC wedi prosesu'r wybodaeth rydym yn wedi'i chasglu yn ystod ein gwaith yn ein polisi preifatrwydd.