Neidio i'r prif gynnwy

Kate Chamberlain yn gadael AGIC

Bydd Kate Chamberlain yn gadael ei rôl fel Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Bydd Dr Chamberlain yn dechrau swydd newydd fel Prif Weithredwr Dros Dro yr Awdurdod Monitro Annibynnol ar gyfer y Cytundebau Hawliau Dinasyddion – sef sefydliad newydd a grëwyd i fonitro sut mae'r DU yn arfer hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop a’r Swistir ers iddi adael yr UE.

Mae Kate Chamberlain wedi bod yn Brif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Cymru ers 2013 ac wedi goruchwylio datblygiadau sylweddol yn y sefydliad yn ystod ei chyfnod yn y swydd. Mae hefyd wedi bod yn rhan o sawl darn o waith proffil uchel yn ystod ei chyfnod yn AGIC.

Ar ôl cyhoeddi i'r staff ei bod yn gadael, dywedodd Kate Chamberlain:

Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae AGIC yn ei gyflawni o ystyried ehangder ei rôl.

“Does byth amser da i adael, ond mae AGIC mewn sefyllfa dda i oresgyn ei heriau yn y dyfodol. Bydd y sefydliad yn paratoi strategaeth newydd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod i gwmpasu cyfnod 2020-24, felly mae'n gyfle da ac rwy'n siŵr y bydd gan staff AGIC syniadau a chynigion i sicrhau bod yr arolygiaeth yn parhau i symud ymlaen.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cydweithio â mi yn y rôl hon. Hoffwn ddiolch yn arbennig i staff AGIC ar bob lefel am eu cymorth, eu proffesiynoldeb a'u gwaith caled. Rwy'n teimlo bod gwerth yr hyn a wnawn yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ein bod yn ymfalchïo yn ein gwaith a'n bod yn ymrwymedig i gydweithio er mwyn goresgyn yr heriau rydym yn eu hwynebu.

“Hoffwn ddiolch hefyd i bartneriaid a rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn Arolygu Cymru, am eu dull cydweithredol ac adeiladol o gydweithio â ni yn ystod fy nghyfnod yn AGIC.

“Rwy'n drist o fod yn gadael AGIC, ond rwy'n edrych ymlaen at ddechrau yn fy rôl newydd, a fydd yn un heriol a chyffrous.