Neidio i'r prif gynnwy

Monitro defnydd o’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn 2014-2015

Rydyn cyfrifol am Monitro defnydd o’r Ddeddf Iechyd Meddwl yng Nghymru.

Cyflwynwyd y Ddeddf Iechyd Meddwl (1983) a’r Cod Ymarfer ategol i amddiffyn unigolion sy’n agored i niwed oherwydd eu hiechyd meddwl. Mae’r Ddeddf wedi’i chynllunio i sicrhau y gellir cyfiawnhau unrhyw benderfyniad i orfodi derbyniad unigolyn i’r ysbyty, gan ei amddifadu o’i ryddid, a bod hynny er lles yr unigolyn hwnnw. Mae’r Ddeddf yn caniatáu i driniaeth feddygol gael ei rhoi i unigolion efallai nad ydynt yn rhoi caniatâd i hynny neu nad yw’r gallu ganddynt i roi caniatâd i hynny. Mae hwn yn faes gofal iechyd unigryw gan y gellir cadw a thrin unigolion yn yr ysbyty yn gyfreithiol. Mae’n hanfodol felly bod y pwerau sy’n berthnasol i unigolion yn cael eu monitro’n briodol.

Rydym yn monitro’r defnydd o’r Ddeddf er mwyn sicrhau bod yr unigolion hynny sy’n cael eu cadw dan ei phwerau yn cael eu hamddiffyn, eu diogelu, eu cefnogi a’u hymrymuso cyn belled â phosibl i wneud penderfyniadau am eu gofal a’u triniaeth. Mae hefyd yn bwysig adolygu sut mae sefydliadau’n arfer eu pwerau dan y Ddeddf a’u bod yn briodol, yn gymesur ac yn gyfreithlon.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno ein canfyddiadau o’r gwaith monitro a wnaed gan ein Hadolygwyr a Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn yn ystod 2014-2015.