Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Alun Jones yn Brif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru dros dro

Ar ôl i'r Prif Weithredwr blaenorol, Dr Kate Chamberlain, adael fis diwethaf, mae Alun Jones wedi cael ei benodi'n Brif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) dros dro am gyfnod o chwe mis gan ddechrau ar unwaith.

Mae Alun wedi cael ei ddyrchafu o'i rôl fel Dirprwy Brif Weithredwr a bydd yn arwain y sefydliad wrth iddo gyflawni ei flaenoriaethau a sicrhau, yn ystod cyfnod anodd i sefydliadau gofal iechyd ledled Cymru, fod AGIC yn ymgysylltu â'r gwaith cywir, ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir er mwyn annog gwelliannau mewn gofal iechyd a sicrhau bod gwaith yn cael ei gyfleu’n dda a'i fod yn gwneud gwahaniaeth.

Ymunodd Alun ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Ebrill 2014 ac mae wedi bod yn gyfrifol am oruchwylio’r ffordd y mae’n cynnal arolygiadau, adolygiadau, ymchwiliadau a gweithgarwch rheoleiddio.

Daw Alun o Gymru ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes archwilio, arolygu a rheoleiddio. Mae wedi gweithio i'r Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Gofal Iechyd a'r Comisiwn Ansawdd Gofal, lle treuliodd ddwy flynedd yn canolbwyntio ar gyfraniad y Comisiwn at Ymchwiliad Cyhoeddus Swydd Stafford.

Bydd Stuart Fitzgerald yn ymgymryd â rôl y Dirprwy Brif Weithredwr dros y chwe mis nesaf ac yn parhau i gyflawni ei gyfrifoldebau fel Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu.

Ar ôl derbyn y swydd, dywedodd Alun Jones,

''Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Brif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru dros dro. Mae gan AGIC rôl bwysig iawn i'w chwarae wrth arolygu a rheoleiddio gwasanaethau iechyd yng Nghymru'n annibynnol. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y seiliau cryf sydd eisoes ar waith yma yn ogystal â gwaith gwych y sefydliad i helpu i wella profiadau dinasyddion o ofal iechyd yng Nghymru."