Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant (JICPA) yn Sir Ddinbych
Cynhaliwyd yr arolygiad ar y cyd ym mis Chwefror 2023.
Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi , Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi ac Estyn, gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd o'r ymateb amlasiantaethol i gamdriniaeth ac esgeulustod yn Sir Ddinbych.
Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu ein canfyddiadau am effeithiolrwydd trefniadau gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol yn Sir Ddinbych.
Yn yr un modd â llawer o ardaloedd ledled Cymru, gwelsom fod yr heriau o ran recriwtio a chadw staff ym mhob un o'r asiantaethau allweddol yn Sir Ddinbych yn effeithio ar drefniadau diogelu plant. Mae lefelau uchel o alw a chymhlethdod cynyddol anghenion plant yn ychwanegu at hyn.
Oherwydd diffyg gweithwyr cymdeithasol, mae dibyniaeth gynyddol ar weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a gweithwyr cymdeithasol o asiantaethau. Mae'r sefyllfa wedi cael ei chategoreiddio fel risg uchel gorfforaethol yn yr awdurdod lleol.
Gwelsom fod systemau a chydberthnasau ar waith i hwyluso trefniadau effeithiol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth lle mae plentyn yn wynebu risg o niwed. Mae partneriaid yn gweithio'n unol ag ethos a rennir o ddiogelu plant ar lefelau gwahanol o fod yn agored i niwed. Mae gan arweinwyr sefydliadol weledigaeth a rennir ac ymdrinnir â threfniadau diogelu rhanbarthol mewn modd cadarnhaol.
Mae'r ymrwymiad strategol clir hwn wedi arwain at gomisiynu ystod ddigonol o wasanaethau lleol effeithiol i gefnogi plant a theuluoedd.
Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.