Neidio i'r prif gynnwy

Safon dda o ofal er gwaethaf heriau digynsail COVID-19

Heddiw [30 Mehefin] mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi'r canfyddiadau o'i adolygiad cenedlaethol â thema COVID-19.

Mae'r adolygiad hwn yn dwyn ynghyd y canfyddiadau o'r holl weithgarwch sicrwydd a wnaed ers mis Mawrth 2020. Cynhaliwyd mwy na 110 o wiriadau ledled Cymru dros y cyfnod, gan ganolbwyntio ar y graddau yr oedd gwasanaethau gofal iechyd yn darparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â'r ffordd yr oedd iechyd a llesiant y staff yn cael eu cefnogi.

Drwy gydol y pandemig, mae AGIC wedi parhau i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn derbyn gofal diogel, effeithiol o ansawdd da.

Er mwyn cefnogi darparwyr gofal iechyd i ganolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel, gwnaethom addasu ein dull o gynnal gwaith sicrwydd ac arolygu drwy ddiwygio'r ffocws o ran pryd a sut roeddem yn mynd ati i wneud ein gwaith. Roedd hyn yn cynnwys datblygu dull newydd o gael sicrwydd o bell a defnyddio gweithgarwch arolygu ar y safle traddodiadol lle roedd y risg i ddiogelwch y cleifion yn uchel iawn neu lle roedd modelau gofal newydd wedi cael eu cyflwyno ar fyrder, er enghraifft ysbytai maes a chanolfannau brechu torfol. Drwy gydol y pandemig, cafodd y gwaith hwn ei gefnogi drwy barhau i adolygu gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth a phryderon a ddaw i law drwy ein pwynt cyswllt cyntaf a hysbysiadau gan sefydliadau gofal iechyd am ddigwyddiadau. Gwnaethom hefyd weithio'n agos gyda sefydliadau partner.

Yn gyffredinol, gwelsom fod y gofal a ddarparwyd ledled Cymru yn ystod y pandemig o safon dda.

Roedd trefniadau da wedi cael eu cyflwyno mewn gwasanaethau gofal iechyd er mwyn addasu i'r amgylchedd gofal a'r ffordd yr oedd pobl yn cael gafael ar ofal, gan alluogi gwasanaethau i barhau i weithredu yn ystod y pandemig. Gwnaed y newidiadau hyn o fewn amserlenni byr iawn yn aml ac roeddent yn cynnwys newidiadau i'r amgylchedd er mwyn cefnogi gofynion cadw pellter cymdeithasol, a darparu apwyntiadau o bell er mwyn cynnal gwasanaethau gofal iechyd mor ddiogel â phosibl. Mae gwasanaethau wedi rhoi dulliau gweithredu arloesol ar waith i gefnogi llesiant corfforol a meddyliol cleifion yn ystod y pandemig.

Ar adegau, mae'r pandemig wedi datblygu'n gyflym iawn, ac er ein bod o'r farn bod trefniadau rheoli heintiau priodol wedi bod ar waith ar y cyfan, mae nifer y brigiadau o achosion mewn ysbytai a welsom yn ystod yr ail don yn dangos bod angen sicrhau bod trefniadau'n effeithiol, gan leihau'r risg o drosglwyddo'r haint gymaint â phosibl.

Gwnaethom nodi'r ymdrechion arbennig a wnaed gan staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal iechyd, a barhaodd i ddangos ymrwymiad diflino a hyblygrwydd yn ystod cyfnod o heriau digynsail. Fodd bynnag, roedd yr effaith ar lesiant y staff hyn yn glir. Heb os, wrth i Gymru barhau ar ei thaith i wella, bydd yr her a wynebir gan wasanaethau gofal iechyd i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o driniaethau yn dod â math gwahanol o bwysau. Bydd angen i wasanaethau sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i gefnogi eu staff i ddarparu gofal diogel ac effeithiol.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Rwyf am ganmol ymrwymiad, gwydnwch a hyblygrwydd staff ym mhob rhan o GIG Cymru ac mewn gwasanaethau gofal iechyd annibynnol sydd wedi gweithio'n ddiflino i ddarparu gofal i gleifion ac i'w gilydd yn ystod yr heriau aruthrol a gyflwynwyd gan COVID-19. Er gwaethaf cymhlethdodau digynsail darparu gofal yn ystod y pandemig, mae ein canfyddiad cyffredinol, sef bod gofal o ansawdd da yn cael ei ddarparu, yn brawf o ymrwymiad a dyfeisgarwch timau gofal iechyd ledled Cymru.