Safonau gofal uchel ond problemau mewn rhai meysydd o hyd, yn ôl Adroddiad Blynyddol diweddaraf Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Yn ei hadroddiad blynyddol a gyhoeddir heddiw [dydd Iau 22 Hydref], mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi crynhoi canfyddiadau mwy na 200 o arolygiadau ac adolygiadau a gyhoeddwyd yn 2019-20 a chyn dechrau pandemig COVID-19.
Fel y sefydliad sy'n sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal iechyd o ansawdd da, rydym yn arolygu amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys ysbytai, deintyddion, clinigau, timau iechyd meddwl cymunedol ac unedau iechyd meddwl, a meddygfeydd o fewn saith bwrdd iechyd y GIG yng Nghymru a'r sector gofal iechyd annibynnol.
Mae'n bwysig nodi y cafodd y gwaith sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad blynyddol ei gwblhau cyn pandemig COVID-19. Gohiriwyd cyhoeddi'r adroddiad hwn yn sgil y mesurau y gwnaethom eu rhoi ar waith i leihau baich ein gwaith ar wasanaethau pan oedd y pandemig ar ei waethaf. Felly, nid yw ein hadroddiad blynyddol yn trafod sut y mae gwasanaethau iechyd yng Nghymru wedi cyflawni eu rolau yn ystod y pandemig.
Yn gyffredinol, gwelsom ofal o safon uchel fel rhan o'n gwaith arolygu ym mhob rhan o'r GIG a'r sectorau annibynnol. Fodd bynnag, rydym wedi tynnu sylw at rai themâu sy'n codi dro ar ôl tro yn ein gwaith, cyn i bandemig y coronafeirws ddechrau.
Mae'r broses o reoli meddyginiaethau a'u storio'n ddiogel yn broblem barhaus ar rai wardiau ac mewn meddygfeydd. Ni chyrhaeddir safonau atal a rheoli heintiau bob amser ac ni chaiff cyfarpar dadebru ei gynnal a'i gadw ar adegau.
Mewn meddygfeydd nodwyd na chaiff gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) eu cynnal bob amser a gellid gwella'r broses o gadw cofnodion imiwneiddio staff mewn ambell achos. Hefyd, nododd cleifion eu bod yn ei chael hi'n anodd trefnu apwyntiad i weld meddyg teulu.
Roedd canfyddiadau ein harolygiadau deintyddol yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Fodd bynnag, gwnaethom nodi amrywiaeth o welliannau ym maes atal a rheoli heintiau a sicrhau bod trefniadau addas ar waith i ddiogelu'r cleifion a'r staff mewn argyfwng meddygol.
Cawsom sicrwydd amserol ond mae'n rhwystredig bod llawer o'r materion roedd angen ymdrin â nhw'n syth yr un peth â'r rhai a godwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
Roedd y gwaith o gynnal a chadw ac adnewyddu wardiau yn fater a gododd mewn llawer o'n harolygiadau iechyd meddwl ac roedd ansawdd cynlluniau gofal yn amrywio'n sylweddol.
Fel rhan o'n gwaith adolygu, lle rydym yn canolbwyntio'n ehangach ar y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, gwnaethom arolygu system gofal gymhleth, integredig mewn perthynas â gwasanaethau cwympiadau. Gwnaethom hefyd gydweithio ag Archwilio Cymru i gynnal adolygiad brys ar y cyd o drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Yn seiliedig ar wybodaeth a ddangosodd fethiannau mewn trefniadau llywodraethu ansawdd a gwasanaethau mamolaeth, tynnodd yr adolygiad sylw at sawl problem a gwendid sylfaenol. Gwnaeth argymhellion ar gyfer gwella, sy'n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd, ac mae gwaith dilynol wrthi'n cael ei gynllunio.
Yn sgil y pryderon am wasanaethau mamolaeth, gwnaethom ddechrau cynnal adolygiad cenedlaethol o wasanaethau o'r fath ledled Cymru, a chyhoeddir adroddiad ar hynny cyn diwedd y flwyddyn hon.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Fel rhan o'n gwaith o arolygu'r GIG a'r sector annibynnol, gwelsom ofal o ansawdd uchel ar y cyfan, ond dangosodd ein gwaith fod themâu rydym wedi cyfeirio atynt yn y gorffennol yn dal i godi. Mae'n rhwystredig gweld bod problemau rydym eisoes wedi'u trafod yn dal i godi yn ein gwaith.
Fodd bynnag, rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud mwy o waith a gwella ein gallu i weithredu yn sgil y dystiolaeth a ddaw i'r amlwg yn ystod ail flwyddyn ein strategaeth tair blynedd. Rydym wedi adeiladu ar sail gadarn er mwyn ein helpu i gyflawni ein nod o annog gwelliannau mewn gofal iechyd drwy wneud y gwaith cywir ar yr amser cywir yn y lle cywir, a sicrhau bod yr hyn a wnawn yn cael ei gyfleu'n dda a'i fod yn gwneud gwahaniaeth.
Gall y cyhoedd a'r proffesiynau gofal iechyd helpu drwy ddweud wrthym am eu profiadau eu hunain o wasanaethau gofal iechyd, a thrwy leisio eu barn os ydynt yn teimlo bod angen iddynt wneud hynny. Mae gwybodaeth yn allweddol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein rôl yn effeithiol.