Staff AGIC yn ailymuno â'r arwyr gofal iechyd
Tra bod y rhan fwyaf o'n staff wedi bod yn gweithio gartref er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i gyflawni ein rôl fel arolygydd a rheoleiddiwr gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, mae dau aelod o staff o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ateb y galw i ddychwelyd i'r GIG.
Mae Lauren wedi bod yn gweithio yn adran achosion brys Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Dywedodd:
Cyn ymuno ag AGIC, bûm yn gweithio yn Ysbyty'r Tywysog Siarl am bron i 7 mlynedd, ac roeddwn wedi parhau i weithio sifftiau yno yn rheolaidd er mwyn cynnal fy sgiliau clinigol a'm cofrestriad proffesiynol. Mae fy ngwaith yn cynnwys trin amrywiaeth eang o gleifion yn yr adran dadebru, yr adran anafiadau difrifol a'r adran mân anafiadau.
Rwyf fel arfer yn gweithio sifftiau penwythnos a sifftiau nos. Rwy'n dal i weithio'n rhan-amser i AGIC ochr yn ochr â fy ngwaith yn yr ysbyty, felly rwyf wedi jyglo gweithio o amgylch addysgu fy mhlant gartref a gwaith fy ngŵr tipyn bach, ond rydym wedi llwyddo i ddod i drefn.
Mae'r adran yn wahanol iawn i'r adran a oedd yno cyn COVID-19. Mae llai o bobl yn dod i mewn i'r uned ac mae'r awyrgylch yn wahanol hefyd. Mae pawb yn ofnus ac yn bryderus. Mae pawb yn mynd adref at eu teuluoedd, ac rydym yn ceisio eu diogelu nhw a'n gilydd cymaint â phosibl. Yn wahanol i'r wardiau neu'r adran gofal dwys, yn yr Adran Achosion Brys nid ydym yn ymwybodol o gyflwr llawn y cleifion sy'n dod drwy'r drws. Gall claf gyrraedd wedi torri coes, ond ar ôl ei asesu efallai bod ganddo dymheredd uchel hefyd. Mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer unrhyw beth.
Mae Emma Scott hefyd wedi dychwelyd i'r gwaith yn adran achosion brys Ysbyty Maelor Wrecsam. Dywedodd:
Nid oeddwn wedi ymgymryd ag ymarfer clinigol ers bron i 5 mlynedd, ond pan ddaeth COVID-19, penderfynais ddychwelyd. Roedd fy rôl glinigol ddiwethaf yn adran achosion brys Maelor Wrecsam ac roeddwn yn teimlo y dylwn gynnig helpu'r adran honno. Mae dychwelyd i'r gwaith ar ôl cwblhau fy hyfforddiant ‘dychwelyd i ymarfer’ wedi bod yn gyfnod heriol i mi o dan yr amgylchiadau, ond mae aelodau'r tîm rwyf wedi bod yn gweithio gyda nhw wedi bod yn gefnogol iawn.
Rwyf hefyd wedi parhau â'm swydd arferol ar gyfer AGIC, ynghyd â bod yn athrawes i fy nau fab. Mae'n rhaid i mi ddweud mai dyna yw'r her fwyaf - doeddwn i ddim wir yn gwybod pa mor glyfar oedd fy meibion, sydd yn eu harddegau, nes i mi geisio eu helpu i ateb eu cwestiynau Saesneg ac algebra! Dwi wedi gwneud cais am athro cyflenwi, ond dwi heb gael ymateb eto!
Yn ystod fy amser yn yr uned, rydym wedi gweld llawer o gleifion yn sâl gyda COVID, yn ogystal â chleifion eraill sydd wedi aros cyn gofyn am help ar gyfer anhwylderau eraill oherwydd eu bod yn poeni am ddal COVID. Rydym hefyd wedi gweld cleifion mewn argyfwng iechyd meddwl yn dod i gael help yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae Emma a Lauren yn gwerthfawrogi'r cymorth maent wedi'i gael.
Dywedodd Emma:
Rwyf wedi gweld yn ystod y pedair wythnos diwethaf bod staff y GIG yn ddewr ac yn ymrwymedig iawn i'r hyn y maent yn ei wneud. Mae'r cymorth rwyf wedi'i gael gan fy nghydweithwyr AGIC, fy ffrindiau a'm teulu wedi bod yn eithriadol, ac rwy'n teimlo bod ein sesiwn reolaidd yn clapio i ofalwyr ar nos Iau yn rhywbeth gwych er mwyn cynnal ein cryfder.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gofio nad ydym yn clapio ar gyfer y GIG yn unig, ond ar gyfer athrawon, gweithwyr mewn archfarchnadoedd, gyrwyr nwyddau, gweithwyr cartrefi gofal, yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r holl weithwyr allweddol eraill sydd yn gweithio'n galed o hyd i wneud yn siŵr y gallwn weithio, bwyta, aros yn ddiogel gartref a dod drwy'r pandemig hwn gyda'n gilydd.
Dywedodd Lauren:
Mae'r sesiwn clapio i ofalwyr yn danfon ias i lawr fy asgwrn cefn bob wythnos. Gwnes i grïo y noson gyntaf y gwnaethom gymryd rhan! Dwi bob amser wedi bod yn falch o'r hyn rydym yn ei wneud, ond weithiau'n teimlo'n nad ydym yn cael ein gwerthfawrogi ddigon, felly roedd y teimlad hwnnw yn arbennig. Rwyf hefyd yn dwli gweld yr enfysau mewn ffenestri tai wrth i mi fynd i redeg bob dydd. Mae pobl wedi bod mor garedig.
Pan ofynnwyd iddynt pam eu bod yn gwneud hyn, dywedodd Emma:
Dewisais ddychwelyd am ei fod yn teimlo mai dyna oedd y peth iawn i mi wneud tra fy mod yn iach ac wedi cofrestru fel nyrs o hyd. Roeddwn i'n teimlo, petawn i'n gallu gwneud gwahaniaeth i ddim ond un claf, byddwn i'n falch iawn.
Ychwanegodd Lauren:
Y peth mwyaf anodd rwyf wedi gorfod delio ag ef yw gofal diwedd oes i gleifion pan nad yw aelodau'r teulu yn gallu bod gyda'u perthnasau sydd yn marw. Ni fyddaf byth yn gallu dod i delerau â cheisio rhoi cysur i fab rhywun dros y ffôn wrth ddal llaw ei riant. Ond dwi'n gwybod nad yw hyn yn ddim byd o gymharu â'r galar y bydd yn ei deimlo am weddill ei fywyd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ateb y cwestiwn pam fy mod yn gwneud hyn. Oherwydd fy mod yn gallu!
Mae'r ddwy ohonynt yn edrych ymlaen at fywyd ar ôl COVID-19, er bod rhywfaint o ansicrwydd o hyd.
Dywedodd Lauren:
Dwi ddim yn siŵr sut fydd bywyd ar ôl y pandemig, ond dwi'n gobeithio y bydd y ffordd y mae pobl yn defnyddio'r GIG yn wahanol a dwi'n gobeithio y bydd y gwerthfawrogiad i ofalwyr yn parhau.
Ychwanegodd Emma:
Bydd COVID-19 gyda ni am beth amser a bydd bywyd wedi newid am byth. Ond rwy'n credu bod hyn hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar y ffordd rydym yn edrych ar ein hiechyd, ar y ffordd y caiff ein hiechyd ei reoli, ar ein bywydau a'r pethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol yn ddyddiol.
Mae'r safbwyntiau a fynegir yn yr erthygl hon yn rhai personol ac efallai nad ydynt yn cynrychioli barn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fel sefydliad.