Neidio i'r prif gynnwy

Ysbytai Iechyd Meddwl, Ysbytai Anableddau Dysgu a Monitro y Ddeddf Iechyd Meddwl 2020-2021

Yn yr adroddiad hwn nodir ein gweithgareddau a'n canfyddiadau ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, ac ystyrir y graddau y gwnaeth gwasanaethau gofal iechyd anableddau dysgu ac iechyd meddwl ledled Cymru ddarparu gofal diogel, urddasol a lleiaf cyfyngol yn ystod y pandemig.

Yn ystod y cyfnod adrodd gwnaethom cynnal 8 ymweliad arolygu ar y safle:

Ysbytai'r GIG 1
Darparwr Gofal Iechyd Annibynnol 7

Gwenaethom hefyd cynnal 33 o wiriadau ansawdd digidol:

Ysbytai'r GIG 18
Darparwr Gofal Iechyd Annibynnol 15

Gwnaethom adolygu pryderon gan gleifion (adolygwyd 151), gan geisio sicrwydd pellach lle bo angen. Gwnaethom hefyd adolygu'r holl hysbysiadau rheoliad 30 a 31 a dderbyniwyd (derbyniwyd 533) yn ystod y flwyddyn, gan gymryd camau lle bo angen.

Dyma ganfyddiadau allweddol y flwyddyn:

  • Mesurau atal a rheoli heintiau a gyflwynwyd ym mhob gwasanaeth a archwiliwyd gennym.
  • Roedd amgylcheddau gofal i leihau'r risg o drosglwyddo COVID-19. Yn anffodus, ac er y newidiadau a wnaed i helpu i leihau lledaeniad COVID-19, cawsom wybod ar sawl achlysur drwy gydol y pandemig fod COVID-19 wedi effeithio ar gleifion a staff mewn lleoliadau gofal iechyd anableddau dysgu ac iechyd meddwl annibynnol, ac roeddem yn ymwybodol o frigiadau o achosion o COVID-19 mewn lleoliadau gofal iechyd anableddau dysgu ac iechyd meddwl y GIG.
  • Roedd sicrhau profiad cadarnhaol i'r claf yn ystod y pandemig wedi bod yn heriol i rai darparwyr gofal. O ganlyniad i'r cyfyngiadau cenedlaethol a lleol, nid oedd yn bosibl rhoi caniatâd weithiau i gleifion fod yn absennol neu gael ymweliadau gan deulu a ffrindiau. Clywsom fod y gofyniad i gadw pellter cymdeithasol a gwisgo cyfarpar diogelu personol (PPE) efyd wedi newid y ffordd y darparwyd gofal yn sylweddol.
  • Angen gwneud gwelliannau cyffredinol i’r ansawdd a chadernid gwaith asesu risg a dogfennaeth cynllunio gofal a thriniaeth.
  • Nododd ein gwaith arferion anghyson o ran asesu risgiau clymu ac enghreifftiau lle na chymerwyd camau gweithredu i leihau neu ddileu risgiau pwyntiau clymu a nodwyd.
  • Mae staff wedi gweithio dan bwysau aruthrol drwy gydol y pandemig, ond mae angen i nifer o ddarparwyr gofal iechyd meddwl annibynnol a'r GIG gymryd camau i recriwtio staff parhaol i sicrhau gofal diogel ac effeithiol.

Ysbytai Iechyd Meddwl, Ysbytai Anableddau Dysgu a Monitro y Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2020-2021

Mae ein hadroddiad 2019-2020 hefyd ar gael i'w ddarllen ar ein gwefan.