Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Cenedlaethol o COVID-19

Rydym wedi cyhoeddi'r canfyddiadau o'i adolygiad cenedlaethol â thema COVID-19.

Mae'r adolygiad hwn yn dwyn ynghyd y canfyddiadau o'r holl weithgarwch sicrwydd a wnaed ers mis Mawrth 2020. Cynhaliwyd mwy na 110 o wiriadau ledled Cymru dros y cyfnod, gan ganolbwyntio ar y graddau yr oedd gwasanaethau gofal iechyd yn darparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â'r ffordd yr oedd iechyd a llesiant y staff yn cael eu cefnogi.

Er mwyn cefnogi darparwyr gofal iechyd i ganolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel, gwnaethom addasu ein dull o gynnal gwaith sicrwydd ac arolygu drwy ddiwygio'r ffocws o ran pryd a sut roeddem yn mynd ati i wneud ein gwaith. Roedd hyn yn cynnwys datblygu dull newydd o gael sicrwydd o bell a defnyddio gweithgarwch arolygu ar y safle traddodiadol lle roedd y risg i ddiogelwch y cleifion yn uchel iawn neu lle roedd modelau gofal newydd wedi cael eu cyflwyno ar fyrder, er enghraifft ysbytai maes a chanolfannau brechu torfol. Drwy gydol y pandemig, cafodd y gwaith hwn ei gefnogi drwy barhau i adolygu gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth a phryderon a ddaw i law drwy ein pwynt cyswllt cyntaf a hysbysiadau gan sefydliadau gofal iechyd am ddigwyddiadau. Gwnaethom hefyd weithio'n agos gyda sefydliadau partner.

Yn gyffredinol, gwelsom fod y gofal a ddarparwyd ledled Cymru yn ystod y pandemig o safon dda.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn isod.

Dogfennau