Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion: taith drwy'r llwybr strôc

Yn ei gynllun gweithredol ar gyfer 2021-22, gwnaeth AGIC ymrwymo i raglen adolygu sy'n ystyried y risgiau a'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau iechyd wrth iddynt barhau gyda'u hymateb i'r pandemig ac adfer ar ei ôl.

Gall llif cleifion aneffeithiol ac aneffeithlon gael effaith sylweddol ar ansawdd a diogelwch gofal cleifion. O ganlyniad, rydym yn dymuno cael mwy o ddealltwriaeth o'r heriau y mae gwasanaethau iechyd yn eu hwynebu mewn perthynas â sut mae cleifion yn llifo drwy'r system gofal iechyd, a phrofi a yw'r trefniadau ar gyfer llif cleifion yn gadarn. Byddwn hefyd yn ystyried sut mae gwasanaethau GIG Cymru'n mynd i'r afael â mynediad pobl i ofal acíwt ar yr adeg gywir ac a yw gofal yn cael ei dderbyn yn y lle cywir, gan bobl â'r sgiliau cywir, hyd at ryddhau amserol o wasanaethau ysbyty, gan gynnwys trosglwyddo gofal i wasanaethau eraill.

O ganlyniad, rydym wedi penderfynu ymgymryd ag adolygiad cenedlaethol o lif cleifion. Er mwyn asesu effaith negyddol heriau llif cleifion ar ansawdd a diogelwch cleifion sy'n aros am asesiad a thriniaeth, rydym wedi penderfynu canolbwyntio ein hadolygiad ar y llwybr strôc. Rydym am ddeall yr hyn sy'n cael ei wneud i liniaru unrhyw niwed i'r rheiny sy'n aros am ofal, yn ogystal â deall sut mae ansawdd a diogelwch gofal yn cael eu cynnal drwy'r llwybr strôc.

Mae ein hymchwil ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid a'r trydydd sector wedi helpu i lywio'r prif gwestiynau y bydd ein hadolygiad yn ceisio eu hateb. Hynny yw:

  • Sut mae gwasanaethau gofal iechyd yn sicrhau bod mynediad a thriniaeth amserol yn cael eu darparu ar y llwybr strôc?
  • Pa gamau y mae gwasanaethau gofal iechyd yn eu cymryd i sicrhau y darperir gofal diogel ac effeithiol o safon ar bob cam gofal, gan leihau effaith oedi?
  • Pa fesurau y mae gwasanaethau gofal iechyd yn eu cymryd i sicrhau y gall cleifion gael eu rhyddhau'n effeithiol ac yn ddiogel o wasanaethau ysbyty?

Drwy'r adolygiad, byddwn yn archwilio'r canlynol:

  • Profiadau pobl sy'n cael mynediad i ofal a thriniaeth ar gyfer strôc, gan ganolbwyntio ar agweddau allweddol ar lif cleifion, ar bob cam gofal, o asesu i ryddhau
  • Yr effaith y gall llif cleifion ei chael ar ganlyniadau i gleifion

Bydd hefyd yn archwilio:

  • Y prosesau sydd ar waith ar gyfer rheoli llif cleifion drwy systemau gofal iechyd
  • Taith y claf drwy'r llwybr strôc