Adolygiad cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn darganfod bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn ffordd ddiogel ac effeithiol, ond bod angen gwella rhai agweddau
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad heddiw [19 Tachwedd 2020] ar Gam Un o'i Hadolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau Mamolaeth.
Nod yr adolygiad hwn rhoi darlun o ansawdd a diogelwch gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru, a nodi gwersi pellach i'w dysgu i wella gwasanaethau i fenywod a'u teuluoedd.
Mae'n bwysig nodi y cafodd yr adolygiad hwn a'i raglen arolygu eu cynnal cyn pandemig COVID-19 ac y bu oedi cyn cyhoeddi'r adroddiad hwn yn sgil y mesurau a gymerwyd gennym i leihau baich ein gwaith ar wasanaethau pan oedd y pandemig ar ei waethaf. Felly, nid yw'r adolygiad wedi ymchwilio i'r ffordd y mae gwasanaethau mamolaeth wedi'u rhedeg ledled Cymru yn ystod y pandemig.
Dangosodd ein hadolygiad fod ansawdd y gofal a ddarperir ledled Cymru yn dda ar y cyfan, gyda'r mwyafrif o'r menywod a'r teuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth yn dweud eu bod wedi cael profiadau cadarnhaol, drwy law grŵp hynod o ymrwymedig ac ymroddedig o weithwyr proffesiynol. Rydym o'r farn bod gwasanaethau mamolaeth yn cael eu darparu mewn ffordd ddiogel ac effeithiol ar y cyfan, ac mae dros 3,500 o ymatebion i'n harolwg cenedlaethol yn cefnogi hyn. Roedd y mwyafrif llethol o'r ymatebwyr yn fodlon ar ansawdd y gofal a'r cymorth a gawsant ar bob cam o'r llwybr mamolaeth, ac yn sôn amdano mewn ffordd gadarnhaol. Fodd bynnag, gwnaethom nodi bod angen gwella rhai meysydd.
Gwelsom fod lefel y cymorth, y cyngor a'r canllawiau i fenywod a theuluoedd yn gadarnhaol a bod menywod yn derbyn digon o wybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal. Fodd bynnag, roedd rhai menywod yn teimlo nad oeddent yn gallu mynegi eu barn a'u pryderon am eu dewisiadau geni, eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu, neu nad oeddent yn derbyn gofal cyson oherwydd y nifer o weithwyr proffesiynol roeddent yn eu gweld yn ystod eu beichiogrwydd.
Roedd yr arolygiadau o 25 o unedau mamolaeth (y cafodd pob adroddiad ei gyhoeddi ar ein gwefan) yn foddhaol ar y cyfan. Fodd bynnag, gwelsom fod angen gwneud sawl gwelliant i'r ffordd y caiff cyfarpar dadebru ar gyfer babanod a chyfarpar brys ei archwilio, i'r trefniadau meddygol brys, i ddiogelwch babanod newydd-anedig a'r dull o reoli meddyginiaethau. Aethpwyd i'r afael â'r materion hyn yn union ar ôl pob arolygiad drwy ein proses Sicrwydd Uniongyrchol, gyda'r bwrdd iechyd perthnasol yn rhoi sicrwydd i ni am y camau i'w cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon hyn.
Gwelsom fod y staff yn ymrwymedig ac ymroddedig, gan wneud popeth o fewn eu gallu i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Fodd bynnag, dangosodd ein harolygiadau a chanlyniadau ein harolwg fod staff yn gweithio dan bwysau, a'u bod yn teimlo nad oes digon o staff i'w galluogi i wneud eu gwaith yn iawn.
Ni welsom unrhyw bryderon sylweddol am y ffordd y caiff gwasanaethau eu goruchwylio ym mhob bwrdd iechyd, ac roedd strwythurau sefydliadol clir ar waith ym mhob rhan o Gymru, gyda llinellau adrodd ac atebolrwydd clir. Ar y cyfan, gwelsom brosesau clir a chadarn ar draws ein harolygiadau ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau a phryderon clinigol ac ymchwilio iddynt. Ar y cyfan, roedd yr asesiadau risg a'r cofrestrau risg yn cael eu cwblhau, eu cynnal a'u diweddaru'n rheolaidd. Fodd bynnag, gwelsom fod modd gwella drwy sicrhau bod tueddiadau, themâu a gwersi yn deillio o ddigwyddiadau yn cael eu rhannu â'r staff yn effeithiol. Mae angen i fyrddau iechyd sicrhau bod diwylliant o adrodd cadarnhaol, clir a thryloyw o fewn eu gwasanaethau mamolaeth, er mwyn sicrhau y gellir cynnal a gwella ansawdd y gofal.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Mae ein hadolygiad wedi dangos bod ansawdd y gofal a ddarperir ledled Cymru yn dda ar y cyfan, a bod y mwyafrif o'r menywod a'r teuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth yn cael profiadau cadarnhaol, gyda staff ymrwymedig ac ymroddedig yn darparu'r gofal. Er bod modd dysgu a gwella er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y profiad mwyaf cadarnhaol posibl yn ystod eu llwybr mamolaeth, rydym o'r farn bod gwasanaethau mamolaeth, ar y cyfan, yn cael eu darparu mewn ffordd ddiogel ac effeithiol yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein hadolygiad hyd yma, gan gynnwys staff gwasanaethau mamolaeth a byrddau iechyd, ein paneli rhanddeiliaid a chynghori a'r menywod a'u teuluoedd a rannodd eu profiadau gwerthfawr yn ein harolwg cenedlaethol. Mae'r profiadau hynny wedi bod yn hollbwysig i'n helpu i gwblhau'r adolygiad hwn, ac mae'n pwysleisio'r cyfraniad pwysig y gall y cyhoedd ei wneud i'n gwaith.