Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth

Gwnaethom lansio ein hadolygiad cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth ledled Cymru ym mis Mehefin 2019. Cynhaliwyd cam un yr adolygiad rhwng mis Mehefin 2019 a haf 2020 a chyhoeddwyd adroddiad Cam Un gennym ym mis Tachwedd 2020.

Dechreuodd y gwaith ar gam dau o’r adolygiad, ond oherwydd y pandemig COVID-19, ym mis Ionawr 2021, penderfynon ni oedi gam dau am gyfnod o chwech mis.

Ym mis Gorffennaf 2021, gwnaethom adolygu ein sefyllfa ar gyfer cynlluniau cam dau, ochr yn ochr â'n rhaglen arolygu ac adolygu seiliedig ar risg ar gyfer 2021-22 a'n hadnoddau. Ar ôl ystyried yn ofalus, rydym wedi penderfynu peidio â symud ymlaen â cham dau yr adolygiad fel y nodir yn ein cylch gorchwyl cyhoeddedig. Yn hytrach na hynny, ar gyfer materion a nodwyd mewn perthynas ag agweddau ar ofal mamolaeth a oedd y tu allan i gwmpas gwreiddiol yr adolygiad cenedlaethol, byddwn yn ceisio sicrwydd drwy ein gwaith dilynol.

Mae'r adolygiad hwn yn ddarn o waith pwysig yn genedlaethol sy'n ystyried ansawdd a diogelwch  gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Roedd ein penderfyniad i gynnal yr adolygiad hwn yn seiliedig ar nifer o bryderon am y pwysau sydd ar wasanaethau mamolaeth yng Nghymru, gan gynnwys y pryderon sydd yng ngwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg y tynnodd AGIC sylw atynt yn ein harolygiad mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ym mis Hydref 2018, a Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd ym mis Ebrill 2019.


Roedd cam un o’r adolygiad cenedlaethol yn ystyried y canlynol:

  • Profiad menywod, eu partneriaid a'u teuluoedd

Roedd hefyd yn ystyried i ba raddau y mae byrddau iechyd ledled Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Darparu gwasanaethau mamolaeth diogel ac effeithiol
  • Deall cryfderau eu gwasanaethau mamolaeth a'r meysydd i'w gwella.

Adolygiadau o wasanaethau mamolaeth

Fel rhan allweddol o'n hadolygiad, rhwng mis Mehefin 2019 a mis Ionawr 2020, gwnaethom gynnal rhaglen o arolygiadau dirybudd o wasanaethau mamolaeth ledled Cymru. Yn dilyn hyn, gwnaethom gynnal rhaglen o arolygiadau pellach lle rhoddwyd rhybudd mewn unedau geni annibynnol(*) yn y byrddau iechyd perthnasol. 

Arweiniodd pob arolygiad at adroddiad arolygu. Mae dolenni ar gyfer pob adroddiad arolygu mamolaeth a gwblhawyd fel rhan o'r adolygiad wedi'u cynnwys ar y dde y dudalen hon.

Cyhoeddir y cylch gorchwyl ar gyfer cam un yr adolygiad isod, ynghyd â'r adroddiad ar gam un, fersiwn hawdd ei ddarllen o'r adroddiad ar gam un a'r dadansoddiad o'r arolwg cyhoeddus cenedlaethol a gynhaliwyd i ategu cam un yr adolygiad. Gofynnodd yr arolwg i bobl â phrofiad diweddar o wasanaethau mamolaeth rannu'r profiadau hynny a'u barn am wasanaethau mamolaeth gyda ni. Rydym wedi arddangos y data a gafwyd o'r arolwg cyhoeddus cenedlaethol mewn dangosfwrdd rhyngweithiol ar gael drwy e-bostio agic@llyw.cymru.