Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Arolygiadau o Bractisau Deintyddol Cyffredinol 2016-17

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiadau o bractisau deintyddol yn 2016-17.

Hwn yw ein  trydydd adroddiad blynyddol sy’n ymwneud â’r gwaith yr ydym wedi’i wneud wrth arolygu practisau deintyddol cyffredinol ledled Cymru. Mae’r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiadau yn ystod 2016–17 a thynnu sylw at y meysydd i’w gwella a’r meysydd o arferion da yr ydym wedi eu nodi ledled gwasanaethau.

Yn ystod 2016–17, gwnaethom gyfanswm o 80 o arolygiadau o bractisau deintyddol: 75 o arolygiadau o bractisau deintyddol nad oeddem wedi ymweld â nhw o’r blaen a phum arolygiad dilynol o wasanaethau a arolygwyd o’r blaen yr oeddem yn parhau i bryderu amdanynt.

Yr hyn wnaeth practisau yn dda: 

  • Credwyd fod y safonau a’r gydymffurfiaeth mor uchel mewn tri phractis yr ymwelwyd â nhw fel na wnaethpwyd unrhyw argymhellion am welliant.
  • Roedd yr adborth a gawsom yn gadarnhaol drwyddi draw, gyda chleifion yn dweud wrthym eu bod yn hapus â’r gofal yr oeddent yn ei gael gan y timau deintyddol a oedd yn eu trin.
  • Practisau yn ymwybodol ar y cyfan o’u rhwymedigaethau a’r canllawiau perthnasol sy’n ymwneud â dadheintio a rheoli heintiau ym maes deintyddiaeth.
  • Roedd gan bractisau amrywiaeth o systemau ar waith (er y byddai gwella’r rhain yn fuddiol ar adegau) i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r safonau gofynnol, cyn belled â bod hynny’n bosibl.
  • Roedd practisau a deintyddion unigol hefyd yn ymwybodol, ar y cyfan, o’r rheoliadau a’r safonau sy’n ymwneud â defnyddio cyfarpar radiograffeg yn ddiogel ac roedd ganddynt systemau ar waith i’w cefnogi i ddefnyddio hwn yn ddiogel.

Yr hyn sydd angen gwella:

  • Trefniadau ar gyfer rheoli staff y tîm deintyddol yn effeithiol er mwyn sicrhau bodcofnodion sy’n ymwneud â’u cyflogaeth yn gyflawn ac yn gyfredol.
  • Sicrhau bod systemau digonol ar waith i gadw bocsys argyfwng sy’n gyflawn, yn gyfredol ac yn barod i’w defnyddio’n ddiogel pe bai claf yn llewygu.
  • Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau cwyno yn eglur i gleifion ac yn ystyried y rheoliadau a’r safonau perthnasol.
  • Trefniadau ar gyfer sicrhau bod pawb yn dilyn prosesau rheoli heintiau ac yn cydymffurfio â safonau ansawdd dadheintio.