Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Arolygiadau o Bractisau Meddygol Cyffredinol 2016-17

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi ein canfyddiadau o arolygiadau bractisau meddygol cyffredinol yn ystod 2016-17.

Hwn yw ein  trydydd adroddiad blynyddol sy'n ymwneud â'r gwaith yr ydym wedi'i wneud yn arolygu practisau meddygon teulu ledled Cymru.

Diben yr adroddiad hwn yw crynhoi canfyddiadau ein harolygiadau yn ystod 2016–17 a thynnu sylw at y meysydd i'w gwella a'r meysydd o arfer da yr ydym wedi eu nodi ar draws gwasanaethau.

Yr hyn a ganfuom:

  • Practisau meddygon teulu yn gweithio'n galed i ddarparu gofal diogel ac effeithiol
  • Practisau gweithio'n galed i ateb y galw am apwyntiadau
  • Roedd systemau ar waith mewn practisau i geisio sicrhau cysondeb gofal pan oedd cleifion yn cael eu gweld gan wahanol aelodau o'r tîm
  • Practisau yn sicrhau bod canlyniadau profion a gohebiaeth arall a dderbyniwyd am eu cleifion yn cael sylw prydlon ac yn cael eu cynnwys yng nghofnodion meddygol cleifion cyn gynted â phosibl
  • Roedd practisau'n awyddus i ddatblygu cymhwysedd eu staff ac roeddent wedi buddsoddi mewn hyfforddiant ychwanegol fel y bo'n briodol

Yr hyn y gallai practisau ei wella:

  • Mae angen i bractisau sicrhau bod eu systemau apwyntiadau mor hygyrch â phosibl i gleifion a allai fod ag anghenion ychwanegol
  • Mae angen cryfhau trefniadau ar gyfer sicrhau bod practisau'n ymwybodol o'u rhwymedigaethau dan gyfraith iechyd a diogelwch, ac yn eu cyflawni
  • Rhaid gwella trefniadau ar gyfer sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'n gyfredol a bod y fersiynau diweddaraf ohonynt yn cael eu nodi'n glir er mwyn i staff gael arweiniad cywir yn eu dyletswyddau