Darllenwch ganfyddiadau ein rhaglen o arolygiadau ysbytai yn ystod 2016-17.
Diben yr adroddiad hwn yw crynhoi’r themâu sy’n dod i’r amlwg o’r arolygiadau o ysbytai y gwnaethom eu cwblhau yn ystod 2016–17. Mae’r adroddiad, felly, yn darparu gwybodaeth ynghylch yr arferion da a nodwyd a’r agweddau ar wasanaethau gofal iechyd roedd angen eu gwella – gan nodi’r materion hynny, yn benodol, a oedd yn ymwneud â nifer o fyrddau iechyd lleol.
Dogfennau
-
Arolygiadau AGIC o Ysbytai’r GIG Adroddiad Blynyddol 2016-2017 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 562 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:562 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.