Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Arolygiadau Ysbytai'r GIG 2015-16

Darllenwch ganfyddiadau ein rhaglen o arolygiadau ysbytai yn ystod 2015-16.

Yn 2015-16, gwnaethom barhau â'n rhaglen o arolygiadau ysbytai'r GIG a gwnaethom ymweld â 44 ward y GIG ar draws amrywiaeth fawr o adrannau. 

Yr hyn a welsom

  • Roedd y rhan fwyaf o gleifion yn gadarnhaol ynghylch eu profiadau o'r gwasanaethau yr oeddent wedi'u derbyn
  • Roedd cleifion yn gadarnhaol am agweddau a chefnogaeth y staff
  • Tystiolaeth o waith tîm amlddisgyblaethol cryf, sy'n cael effaith fuddiol ar ofal a thriniaeth cleifion
  • Mae angen gwella rheolaeth meddyginiaeth ar draws pob bwrdd iechyd fel bod cleifion yn derbyn y meddyginiaethau cywir a’r dos cywir ar yr adeg gywir
  • Mae angen gwella cofnodion gofal cleifion fel bod cofnodion cleifion yn eglur i staff sydd efallai'n anghyfarwydd â'r cleifion a'r ardal glinigol 
  • Mae angen glynu at weithdrefnau atal a rheoli heintiau gan bob aelod o dimau ward amlddisgyblaethol

Yn dilyn ein harolygiadau, gwnaed argymhellion i'r byrddau iechyd a byddwn yn gwneud gweithgareddau dilynol pellach i sicrhau bod byrddau iechyd yn wyliadwrus wrth fynd i'r afael â'r materion hyn ac yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.