Neidio i'r prif gynnwy

Alun Jones

Prif Weithredwr

Alun Jones

Ymunodd Alun ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Ebrill 2014 ac arweiniodd y sefydliad fel Prif Weithredwr Dros Dro yn ystod pandemig COVID-19, un o’r cyfnodau mwyaf heriol i ofal iechyd yn ddiweddar. Penodwyd Alun yn Brif Weithredwr parhaol AGIC ym mis Gorffennaf 2022.

Daw Alun o Gymru ac mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad o weithio ym maes archwilio, arolygu a rheoleiddio. Yn y gorffennol, mae wedi gweithio i'r Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Gofal Iechyd a'r Comisiwn Ansawdd Gofal, lle bu'n arwain cyfraniad y Comisiwn Ansawdd Gofal i Ymchwiliad Cyhoeddus Canolbarth Swydd Stafford.

Mae Alun yn bwriadu parhau i ddatblygu’r sylfeini cryf a’r arddull gydweithredol a feithrinwyd gan AGIC dros y blynyddoedd diwethaf, ac arwain y sefydliad wrth iddo geisio cyflawni ei nod o ddylanwadu ar safonau ac ysgogi gwelliant yn y system gofal iechyd.