Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ydym ni

Rydym yn gyfrifol am arolygu, adolygu ac ymchwilio gwasanaethau'r GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol ledled Cymru.

eiconau - chwyddo gwydr, gweithio gyda'n gilydd, targedu, pobl ac ysgwyd llaw

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cael ei arwain gan y Prif Weithredwr Alun Jones. Mae'n derbyn cefnogaeth gan y Cyfarwyddwr Sicrwydd a'r Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu.

Mae gennym 87 o staff sydd wedi eu lleoli ar draws swyddfeydd yng Nghymru. Mae ein prif swyddfa wedi'i lleoli ym Merthyr Tudful. Rydym hefyd yn cael ein cefnogi gan adolygwyr lleyg ac adolygwyr gymheiriaid sy'n ein helpu arolygu gwasanaethau i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ar gyfer y bobl sy'n eu defnyddio.

Arolygiaeth ydym ni sy’n gweithredu’n annibynnol, a hynny o fewn Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu bod ein staff yn weision sifil a gyflogir gan y Llywodraeth, ond ni sy’n penderfynu ar ein rhaglen waith ac yn dewis ble, pryd a sut rydym yn ei chyflawni.