Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiadau Ysbytai Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu a’r Deddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2016-17

Darllenwch y canfyddiadau o ein arolygiadau ysbytai iechyd meddwl, anabledd dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn ystod 2016-17.

Yn ystod 2016–17, gwnaethom archwilio sefydliadau iechyd meddwl o fewn byrddau iechyd, ac ysbytai iechyd meddwl annibynnol ac anabledd dysgu.

Cynhaliodd gyfanswm o 29 o arolygiadau (ymwelwyd â 28 o ysbytai, ac un o'r rhain ddwywaith). Yn benodol, gwnaethom gynnal 53 o ymweliadau monitro’r Ddeddf Iechyd Meddwl, a chynhaliwyd nifer ohonynt fel rhan o'n harolygiadau iechyd meddwl manwl.

Y hyn a ganfuom

  • Dywedodd cleifion eu bod yn fodlon ar safonau'r gofal a'r dull gofalgar a amlygwyd gan staff
  • Cofnodion Deddf Iechyd Meddwl cynhwysfawr a oedd wedi'u cynnal a'u cadw'n dda
  • Asesiadau cynhwysfawr o alluedd
  • Ysbytai'r GIG a oedd yn parhau i weithio tuag at ennill achrediad allanol ac yn ei gael, gan gynnwys Achrediad ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Gleifion Mewnol (AIMS) a Safewards, a dylid canmol hyn
  • Mae lefel y mewnbwn seicoleg a therapi galwedigaethol ar draws y sector annibynnol yn nodedig
  • Mae parodrwydd staff a chleifion i ymgysylltu â’r broses arolygu ar draws ysbytai’r GIG ac ysbytai annibynnol ar y cyfan yn dda iawn
  • Y rhyngweithio cadarnhaol rhwng cleifion a staff, er gwaethaf y ffaith bod staff yn ymdrin â chleifion heriol iawn

Ein pryderon

Er hynny, gwnaethom hefyd nodi nifer o feysydd a oedd yn peri pryder mewn perthynas â'r GIG ac ysbytai annibynnol yn ystod ein harolygiadau, gan gynnwys:

  • Pryderon o ran dewis ac ansawdd y bwyd, a diffyg tystiolaeth i ddangos bod anghenion maethol cleifion yn cael eu bodloni
  • Darparu gofal iechyd corfforol
  • Diffyg o ran atal a rheoli heintiau
  • Diffyg prosesau cadarn ar gyfer rheoli risg
  • Diffyg cynnal a chadw
  • Diffyg cynllunio cadarn mewn perthynas â gofal a thriniaeth, gan gynnwys risg
  • Diffyg gwlâu ar gyfer cleifion mewnol
  • Diffyg o ran aelodau staff sy'n meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth gywir

Arbennig o siomedig oedd nifer y materion arwyddocaol a nodwyd yn ystod 2015–16 ond a oedd yn parhau i fod yn broblem yn ystod 2016–17. Rhaid i fyrddau iechyd a darparwyr annibynnol ddatblygu strategaethau hirdymor i roi digon o sylw i’r meysydd a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac i sicrhau bod anghenion y grŵp hwn o gleifion sy'n agored i niwed yn derbyn digon o sylw.