Darllenwch y canfyddiadau o ein arolygiadau ysbytai iechyd meddwl, anabledd dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn ystod 2015-2016.
Diben yr adroddiad hwn yw crynhoi’r themâu sy’n dod i’r amlwg o’r arolygiadau ysbytai iechyd meddwl, anabledd dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn ystod 2015-2016.
Yn ystod 2015–16, gwnaethom gynnal 12 arolygiad o sefydliadau annibynnol a phedwar arolygiad o ddarparwyr y GIG yn ogystal â saith ymweliad dilynol. Hefyd, gwnaethom ymgymryd â 59 ymweliad monitro'r Ddeddf Iechyd Meddwl ar wardiau mewn 30 o ysbytai, a chyflawnwyd y rhan fwyaf o'r rhain fel rhan o'n rhaglen arolygu.
Yr hyn a ganfuom:
- Rhyngweithio cadarnhaol rhwng cleifion a staff, er gwaethaf y ffaith bod staff yn ymdrin â chleifion heriol iawn
- Cynnydd yn nifer ysbytai’r GIG sy’n gweithio tuag at achrediad allanol ac yn ei ennill, gan gynnwys Achrediad ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol (AIMS), Star Wards a Safewards, ac mae hyn i’w gymeradwyo
- Gwaith tîm amlddisgyblaethol, gan gynnwys staff sy'n seiliedig yn y gymuned, yn effeithiol yn gyffredinol ar draws y GIG
- Parodrwydd staff a chleifion i ymgysylltu â’r broses arolygu ar draws ysbytai’r GIG ac ysbytai annibynnol ar y cyfan yn dda iawn.
Yr hyn y gallai wella:
- Mwy o welyau mewn ysbytai GIG ar gael
- Mynediad rhwyddach i seicoleg therapi a galwedigaethol
- Angen am hyfforddiant cyson mewn amrywiaeth o feysydd
- Prawf derbyn clir
- Oruchwyliaeth staff gadarn
- Roedd cynnal a chadw hefyd yn broblem sylweddol, ac yn 80% o'r ysbytai a ymwelwyd roedd angen gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu, ac roedd angen newid cyfarpar a dodrefn
Gallwch ddarllen y canfyddiadau llawn gan ein harolygiadau ac argymhellion ar gyfer gwella yn yr adroddiad isod.
Dogfennau
-
Arolygiadau Ysbytai Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu a’r Deddf Iechyd Meddwl 2015-2016 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 390 KBCyhoeddedig:390 KB