Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin Arsylwi ar Ansawdd – COVID-19

Mae Bwletin Arsylwi ar Ansawdd, sy’n gynnyrch newydd i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sy’n nodi'r themâu cadarnhaol, arferion da a risgiau sy'n dod i'r amlwg yn ystod pandemig COVID-19 o Wiriadau Ansawdd a gwaith eraill.

Ers cychwyn pandemig COVID-19, rydym wedi gweithio ar addasu ein trefniadau sicrwydd ac arolygu ar adeg pan mae ymweliadau arolygu ar y safle wedi bod llawer mwy heriol i leoliadau gofal iechyd ac i ni'n hunain. Gwaethom ddatblygu a lansio rhaglen o Wiriadau Ansawdd o bell i ategu ein gwaith arolygu traddodiadol i raddau helaeth

Gwaethom ddatblygu ein Bwletin Arsylwi ar Ansawdd er mwyn cyfathrebu ein canfyddiadau mor gyflym â phosibl i gefnogi gwelliant ac fel y gallant gael eu hystyried gan leoliadau wrth iddynt barhau i ymateb i'r pandemig.

Rydym wedi dosbarthu hwn drwy e-bost i wasanaethau'r GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, ac mae hefyd ar gael ar ein gwefan ni.