I gefnogi gwelliant ymhellach, rydym bellach wedi ystyried yr holl ganfyddiadau o'n Gwiriadau Ansawdd yn ystod y cyfnod hwn a nodi'r themâu cadarnhaol, arferion da a risgiau sy'n dod i'r amlwg.
Rydym wedi clymu’r wybodaeth hon at ei gilydd mewn bwletin Arslywi ar Ansawdd ac wedi dosbarthu hwn drwy e-bost i wasanaethau'r GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol.
Ers cychwyn pandemig COVID-19, rydym wedi gweithio ar addasu ein trefniadau sicrwydd ac arolygu ar adeg pan mae ymweliadau arolygu ar y safle wedi bod llawer mwy heriol i leoliadau gofal iechyd ac i ni'n hunain.
Gwaethom ddatblygu a lansio rhaglen o Wiriadau Ansawdd o bell i ategu ein gwaith arolygu traddodiadol i raddau helaeth.Rydym wedi ceisio rhannu ein canfyddiadau mor gyflym â phosibl i gefnogi gwelliant ac fel y gallant gael eu hystyried gan leoliadau wrth iddynt barhau i ymateb i'r pandemig.
I gefnogi gwelliant ymhellach, rydym bellach wedi ystyried yr holl ganfyddiadau o'n Gwiriadau Ansawdd yn ystod y cyfnod hwn a nodi'r themâu cadarnhaol, arferion da a risgiau sy'n dod i'r amlwg.
Rydym wedi clymu’r wybodaeth hon at ei gilydd mewn bwletin Arslywi ar Ansawdd ac wedi dosbarthu hwn drwy e-bost i wasanaethau'r GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu adroddiad cenedlaethol sy'n tynnu ar ein holl waith yn ystod COVID-19.
Dogfennau
-
Mai 2021 – Bwletin Arsylwi ar Ansawdd COVID-19 - Canolfannau Brechu Torfol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 588 KBCyhoeddedig:588 KB
-
Chwefror 2021 – Bwletin Arsylwi ar Ansawdd COVID-19 - Ail Rifyn , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 416 KBCyhoeddedig:416 KB
-
Rhagfyr 2020 – Bwletin Arsylwi ar Ansawdd COVID-19 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 421 KBCyhoeddedig:421 KB