Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion COVID-19

Darllenwch ein datganiadau ar COVID-19

Drwy gydol y pandemig mae AGIC wedi bod yn adolygu ei weithgarwch yn fanwl, gan asesu risg pob darn o waith er mwyn sicrhau ei fod yn briodol ac yn gymesur o ystyried y sefyllfa barhaus o ran pandemig.

Wrth inni nesáu at yr hyn a fydd yn gyfnod gaeaf anodd i wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru, mae'n hen bryd inni ddarparu diweddariad ar ddull gweithredu a gweithgareddau AGIC dros y misoedd i ddod.

Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gwneud rhagor o waith sicrwydd rheolaidd ar y safle o 26 Ebrill ymlaen.

Mae Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru ac Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn galw ar bob aelod o staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i "godi llais" am y gofal rhagorol sy'n cael ei roi, ond hefyd am unrhyw ofal nad yw'n cyrraedd y safon ofynnol.

Mae AGIC yn bwriadu ymgymryd â gwaith sicrwydd er mwyn ystyried trefniadau byrddau iechyd ar gyfer rhoi strategaeth frechu COVID-19 ar waith.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ailddechrau gwaith arferol sy'n gysylltiedig â'n gwiriadau ansawdd a'n gweithgarwch arolygu diwygiedig yn y GIG.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi penderfynu gohirio gwaith newydd, rheolaidd sy’n gysylltiedig â'n gweithgarwch gwirio ac arolygu ansawdd diwygiedig yn y GIG o 20 Rhagfyr tan diwedd mis Ionawr o leiaf. Byddwn yn adolygu ein penderfyniad bryd hynny.

Yn dilyn adborth cadarnhaol ar ein dull gweithredu addasedig o ymgymryd â'i threfniadau sicrwydd ac arolygu, yn ogystal â'r pwysau parhaus y mae gwasanaethau yn eu hwynebu o ganlyniad i bandemig COVID-19, bydd Gwiriadau Ansawdd AGIC yn parhau i mewn i 2021.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am sut rydym wedi ymateb i COVID-19 a beth bydd ein ffordd o weithio ar ran sicrwydd ac arolygu dros y misoedd nesaf.

Rydym wedi cyhoeddi datganiad sefyllfa COVID-19, sy’n nodi beth rydym wedi’i gwneud wrth ymateb i’r pandemig a sut rydym yn ymateb i’r heriau sy’n ein wynebu ni o hyd. Mae hefyd yn nodi'r ffordd rydym yn addasu ein gwaith wrth i'r cyfyngiadau COVID-19 yn newid.

Ar 14 Ebrill, gwnaethom gyhoeddi ein bod yn rhoi'r gorau i gyhoeddi adroddiadau ar arolygiadau o leoliadau gofal iechyd y GIG a gynhaliwyd cyn i ni benderfynu peidio â chynnal arolygiadau arferol newydd ar 17 Mawrth. Mae ein datganiad ar 14 Ebrill yn nodi'r rhesymau dros ein penderfyniad. Rydym wedi penderfynu y gallwn ddechrau cyhoeddi adroddiadau arolygu a gwblhawyd ar gyfer lleoliadau gofal iechyd y GIG. 

Tra bod y rhan fwyaf o'n staff wedi bod yn gweithio gartref er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i gyflawni ein rôl fel arolygydd a rheoleiddiwr gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, mae dau aelod o staff o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ateb y galw i ddychwelyd i'r GIG.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar gynllunio gofal ymlaen llaw yng Nghymru.

Rydym wedi penderfynu rhoi'r gorau ar unwaith i lunio a chyhoeddi adroddiadau ar arolygiadau yn lleoliadau gofal iechyd y GIG a gynhaliwyd cyn i'r penderfyniad i roi'r gorau i'n gwaith arolygu gael ei gyhoeddi.

Ydych chi'n gweithio gyda offer ymbelydredd ïoneiddio meddygol? Darllenwch ein hymateb ar y cyd gyda rheoleiddwyr IRMER eraill y DU i COVID-19.

Rydyn ni wedi penderfynnu rhoi terfyn ar ei rhaglen o arolygiadau a gwaith adolygu arferol o ddydd Mawrth 17 Mawrth ymlaen.

Darllenwch am sut yr ydym yn bwriadu bwrw ymlaen gyda'n gwaith yn ystod argyfwng COVID-19.