Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith sicrwydd rheolaidd ar y safle yn ailddechrau

Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gwneud rhagor o waith sicrwydd rheolaidd ar y safle o 26 Ebrill ymlaen.

Ers dechrau pandemig COVID-19, rydym wedi bod yn gwneud y rhan fwyaf o'n gwaith sicrwydd o bell ar ffurf Gwiriadau Ansawdd. Rydym wedi parhau i gynnal gweithgarwch ar y safle lle roedd lefel uchel glir o risg i ddiogelwch cleifion nad oedd modd i ni ymchwilio iddi o bell. 

Gan fod amrywiaeth o ddangosyddion yn dangos bod pethau'n argoeli’n dda o ran y pwysau a welwyd yn sgil COVID-19, byddwn yn dechrau cynnal rhagor o weithgarwch sicrwydd ar y safle fel rhan o'n rhaglen waith o 26 Ebrill ymlaen. Ein bwriad yw ailgydio yn ein rhaglen lawn o arolygiadau rheolaidd ar y safle o 1 Gorffennaf 2021. 

Rydym hefyd yn cynnal gwerthusiad llawn o'n dull Gwirio Ansawdd, a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig, er mwyn penderfynu sut y gellid ei ddefnyddio yn y tymor hwy fel rhan o'n cymysgedd o weithgarwch sicrwydd.