Ymateb AGIC i COVID-19 a threfniadau sicrwydd ac arolygu
Mae Alun Jones, ein Prif Weithredwr dros dro, wedi anfon llythyr i'r GIG, lleoliadau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru a rhanddeiliaid eraill, ynglŷn â sut rydym yn parhau i ymateb i'r sefyllfa COVID-19 a beth bydd ein ffordd o weithio ar ran sicrwydd ac arolygu dros y misoedd nesaf.
Darllenwch isod am wybod mwy am yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud.
Yn ystod pandemig COVID-19, ein nod a'n hymrwymiad parhaus yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal o ansawdd da, a ddarperir yn ddiogel ac yn effeithiol, yn unol â safonau cydnabyddedig. Gwnaethom gyhoeddi datganiad sefyllfa yn ddiweddar sy'n nodi'r egwyddorion sy'n ategu ein dull gweithredu yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd â'r camau rydym wedi eu cymryd mewn ymateb i COVID-19. Mae hefyd yn nodi'r ffordd rydym yn addasu ein dull o gyflawni ein swyddogaethau wrth i ni symud drwy'r pandemig, ac wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, er mwyn sicrhau ei fod yn gymesur ac yn briodol.
Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn ystyried ffyrdd newydd o weithio a fydd yn rhoi hyblygrwydd ac ystwythder i ni wrth gyflawni ein rôl dros y flwyddyn i ddod, ac rwyf bellach mewn sefyllfa lle gallaf rannu mwy o fanylion am y dull hwn.
Rydym yn cynllunio ac yn caboli ein rhaglen waith arferol yn barhaus a byddwn yn treialu ein ffordd newydd o weithio dros y tri mis nesaf, rhwng mis Awst a mis Hydref. Erbyn tua diwedd y cyfnod hwn, byddwn yn gwerthuso'r dull er mwyn sicrhau ei fod yn briodol ac yn bodloni ei nodau a'i amcanion.
Rwy'n dra ymwybodol ein bod wedi gorfod symud yn gyflym i addasu fel sefydliad ac nid yw hyn wedi ein galluogi i ymgysylltu â chi am ein dull yn y ffordd y byddem wedi dymuno. Wedi dweud hynny, mae ein rôl graidd o gadarnhau a yw safonau a rheoliadau yn cael eu bodloni yn parhau i fod wrth wraidd ein dull gweithredu. Bydd y fethodoleg a'r dull arolygu newydd yn ein galluogi i ddefnyddio ein hadnodd mewn ffordd fwy ystwyth, gan ymateb i risgiau a materion penodol wrth ystyried modelau gweithredu diwygiedig yn ystod y pandemig.
Nodwedd allweddol o'n dull newydd fydd defnyddio model sicrwydd ac arolygu tair haen sy'n lleihau'r ddibyniaeth ar weithgarwch arolygu ar y safle fel ein prif ddull o gael sicrwydd.
Cynhelir gweithgarwch Haen 1 yn gyfan gwbl oddi ar y safle a chaiff ei ddefnyddio at nifer o ddibenion ond, ar hyn o bryd, yn bennaf lle na ellir datrys materion drwy ein proses pryderon safonol a lle mae'r risg o gynnal arolygiad ar y safle yn dal i fod yn uchel. Bydd Haen 2 yn cyflwyno cyfuniad o weithgarwch oddi ar y safle a gweithgarwch cyfyngedig ar y safle, tra bydd Haen 3 yn arolygiad mwy traddodiadol ar y safle.
Rydym bob amser yn cadw'r hawl i gynnal arolygiad llawn ar unrhyw adeg, ond rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o'n gwaith fod o fewn Haen 1 drwy gydol mis Awst a mis Medi. Ar gyfer y gweithgaredd hwn, pan gaiff gwaith ei gyhoeddi, bydd llai o amser i baratoi (o leiaf 7 diwrnod gwaith), tîm arolygu llai o faint a bydd rhan fwyaf o'r gwaith sicrwydd yn cael ei gwblhau drwy gais am wybodaeth, a galwad ffôn neu alwad fideo ddilynol gyda gweithwyr allweddol. Ar ôl cyfnod byr o gwblhau gwiriad cywirdeb ffeithiol, caiff crynodeb ysgrifenedig a, lle bo angen, cynllun gwella eu llunio. Byddwn yn cyhoeddi'r adroddiad cryno cyn gynted â phosibl ar ôl cynnal y gweithgarwch ac ar ôl cwblhau'r gwiriad cywirdeb.
Bydd y dull hwn yn ein galluogi i gael sicrwydd gan wasanaethau ar adeg pan fo ymweliadau arolygu ar y safle yn llawer mwy heriol i leoliadau gofal iechyd ac i ninnau. Mae hefyd yn darparu dull cynyddrannol a fydd yn darparu mwy o hyblygrwydd yn y dyfodol drwy gynnig ystod ehangach o ddulliau ar gyfer cyflawni ein gwaith.