Neidio i'r prif gynnwy

AGIC yn parhau â'i dull gweithredu addasedig o ymgymryd â'i threfniadau sicrwydd ac arolygu

Yn dilyn adborth cadarnhaol ar ein dull gweithredu addasedig o ymgymryd â'i threfniadau sicrwydd ac arolygu, yn ogystal â'r pwysau parhaus y mae gwasanaethau yn eu hwynebu o ganlyniad i bandemig COVID-19, bydd Gwiriadau Ansawdd AGIC yn parhau i mewn i 2021.

Darllenwch isod er mwyn cael gwybod mwy am yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud.

Yn ystod pandemig COVID-19, ein nod a'n hymrwymiad parhaus yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn derbyn gofal o ansawdd da, a ddarperir yn ddiogel ac yn effeithiol, yn unol â safonau cydnabyddedig. Fodd bynnag, mae hefyd yn hollbwysig ein bod yn gwneud yn siŵr nad ydym yn rhoi baich ychwanegol ar y GIG nac yn rhoi ein staff ein hunain mewn perygl. Er mwyn cyflawni hyn, ym mis Awst, gwnaethom gyflwyno dull addasedig o ymgymryd â threfniadau sicrwydd ac arolygu i wneud yn siŵr bod ein dull o gyflawni ein swyddogaethau yn gymesur ac yn briodol.

Cynhaliwyd ein dull gweithredu newydd, Gwiriadau Ansawdd AGIC oddi ar y safle yn gyfan gwbl ac mae'n canolbwyntio ar dri maes:

  • atal a rheoli heintiau
  • llywodraethu (yn benodol o ran staffio)
  • yr amgylchedd gofal

Mae'r rhain yn gyson â'r meysydd allweddol a nodwyd yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru ac yn cynrychioli'r meysydd y gwyddom eisoes, drwy ein gwaith a thrwy gyngor a gafwyd gan ein Cynghorwyr Clinigol, eu bod yn hanfodol er mwyn sicrhau gofal diogel ac effeithiol i gleifion. Bydd pob methodoleg sector-benodol yn ystyried y tri maes hyn, yn ogystal â meysydd eraill sy'n berthnasol i'r sector hwnnw. Mae'r gwaith yn ystyried yn benodol drefniadau a roddir ar waith i ddiogelu staff a chleifion rhag COVID-19, gan ein galluogi i ddarparu cyngor gwella cyflym a chefnogol ar y ffordd y caiff gwasanaethau eu gweithredu yn ystod y pandemig.

Rydym yn adolygu ein gwaith yn rheolaidd, rydym yn sensitif i bwysau ac rydym wedi addasu ein rhaglen waith ar ôl ymgynghori â darparwr lle y bo'n briodol. Ym mhob rhan o'r GIG a'r sector annibynnol rhwng canol mis Awst a diwedd mis Tachwedd, cynhaliwyd 57 o Wiriadau Ansawdd, cyhoeddwyd 43 o adroddiadau cryno o'r canfyddiadau ac anfonnwyd dau lythyr sicrwydd uniongyrchol. Hefyd, cynhaliwyd nifer bach o arolygiadau mwy traddodiadol ar y safle, lle mae ein gwaith monitro gwybodaeth wedi nodi pryderon difrifol, gan nodi y gallai fod risg uniongyrchol i ddiogelwch cleifion.

Hyd yma, mae'r adborth ffurfiol ac anffurfiol a gafwyd ar ein dull gweithredu wedi bod yn gadarnhaol ym mhob rhan o'r GIG a'r sector annibynnol.  Rydym eisoes wedi achub ar y cyfle i rannu canfyddiadau cynnar â Bwrdd Gweithredol y GIG sydd wedi bod yn gefnogol o'r dull gweithredu newydd. O ganlyniad i adborth a'r pwysau parhaus a ddaeth yn sgil y pandemig, rydym wedi penderfynu parhau â'n dull gweithredu addasedig tan fis Mawrth 2021 o leiaf.

Yn dilyn crynodebau Gwiriad Ansawdd unigol, byddwn yn llunio ac yn rhannu ein canfyddiadau drwy gyfres o ddiweddariadau COVID-19 ym mis Rhagfyr a mis Chwefror, cyn llunio adroddiad llawn ym mis Ebrill 2021.

Gellir gweld ein rhaglen lawn o waith hyd at fis Mawrth 2021 yn ein Cynllun Gweithredol 2020-21.