Yr hyn rydym am ei gyflawni dros y flwyddyn i ddod a sut rydym yn bwriadu gwneud hynny.
Cynllun Strategol a Gweithredol 2021-2022
O ystyried y cyfnod digynsail hwn, rydym wedi llunio cynllun strategol a gweithredol un flwyddyn ar y cyd er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal ein ffocws ac yn parhau'n briodol ac yn gymesur yn ein gwaith wrth i wasanaethau barhau i ddelio â phandemig COVID-19, a dechrau’r broses adfer.
Bydd hyn yn ein galluogi i gynnal gwerthusiad priodol o'n gwaith dros y tair blynedd diwethaf a chynnal y lefel gywir o weithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid, wrth inni ddatblygu strategaeth tymor hwy o 2022.
Ein Cynllun
Mae ein Cynllun Strategol a Gweithredol yn pennu ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r hyn rydym yn anelu at ei gyflawni.
Drwy ein gwaith, ein nod yw:
Rhoi sicrwydd:
Cynnig barn annibynnol am ansawdd y gofal.
Hybu gwelliant:
Annog gwelliant drwy lunio adroddiadau a rhannu arferion da
Dylanwadu ar bolisi a safonau:
Defnyddio'r hyn rydym yn ei ganfod i ddylanwadu ar bolisi, safonau ac arfer
Ein nod yw:
Annog gwelliant ym maes gofal iechyd drwy wneud y gwaith iawn ar yr adeg iawn yn y lle iawn; gan sicrhau bod yr hyn a wnawn yn cael ei gyfleu'n dda ac yn gwneud gwahaniaeth
Byddwn yn canolbwyntio ar 4 prif flaenoriaeth:
- Sicrhau bod ein gwaith yn cael yr effaith fwyaf posibl i gefnogi'r gwaith o wella gofal iechyd
- Cymryd camau lle na chaiff safonau eu cyrraedd
- Bod yn fwy gweladwy
- Datblygu ein pobl a'n sefydliad i wneud y gwaith gorau posibl
Rydym wedi addasu ein gwaith yn sylweddol dros y 12 mis diwethaf o ganlyniad i bandemig COVID-19. O ystyried yr heriau rydym yn eu hwynebu o hyd o ganlyniad i hyn, byddwn yn adolygu ein rhaglen waith bob chwarter er mwyn sicrhau y gellir diweddaru ein gweithgareddau a'n blaenoriaethau i adlewyrchu'r amgylchedd rydym yn gweithio ynddo ac sy'n newid yn gyson.
Dogfennau
- Cyhoeddedig616 KB- pdf