Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Strategol

Darganfod ein nod a blaenoriaethau strategol newydd ar gyfer 2022-2025

 

Cynllun Strategol 2022–2025

Rydym heddiw wedi lansio ein Cynllun Strategol ar gyfer 2022-2025.  Mae wedi cael ei ddatblygu drwy ymgynghoriad â'n staff ein hunain, rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd.

Rydym wedi adnewyddu ein diben sefydliadol ac wedi datblygu nod newydd wedi'i ategu gan bedair blaenoriaeth newydd.

Ein diben newydd

Gwirio bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu mewn ffordd sy’n mwyafu iechyd a llesiant pobl

Ein nod newydd

Bod yn llais dibynadwy sy’n ysgogi gwelliant mewn gofal iechyd ac sy’n dylanwadu arno

Ein blaenoriaethau newydd

  1. Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal iechyd a ddarperir i bobl a chymunedau wrth iddynt gyrchu a defnyddio gwasanaethau a symud rhyngddynt
  2. Byddwn yn addasu ein dull gweithredu i sicrhau ein bod yn ymatebol i risgiau i ddiogelwch cleifion sy’n dod i’r amlwg
  3. Byddwn yn cydweithio er mwyn ysgogi’r gwaith o wella systemau a gwasanaethau ym maes gofal iechyd
  4. Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu ein gweithlu i’w galluogi, a’r sefydliad, i gyflawni ein blaenoriaethau.

Bydd ein blaenoriaethau yn ein helpu i ystyried a yw gofal iechyd yn diwallu anghenion cymuned ac a yw o ansawdd da. Bydd cydraddoldeb ac amrywiaeth yn greiddiol i'r gwaith a wnawn a bydd ein strategaeth yn ein cefnogi i ystyried sut mae gwasanaethau gofal iechyd yn cyrraedd y rhai sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf i fynediad, a'r canlyniadau tlotaf ym maes iechyd.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro:

Mae ein gweledigaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf yn cydnabod bod yn rhaid i ni aros yn sefydliad hyblyg, un sy'n gallu addasu ein gwaith a defnyddio ein hadnoddau yn fwyaf effeithiol i gyflawni ein nod, sef i fod yn llais dibynadwy sy'n ysgogi gwelliant mewn gofal iechyd ac sy'n dylanwadu arno. Byddwn yn ystyried ansawdd y gofal iechyd wrth iddo gael ei ddarparu i bobl pan fyddant yn cael mynediad at wasanaethau, eu defnyddio a symud rhyngddynt. Bydd angen inni weithio ar y cyd ag eraill, gan harneisio'r mewnwelediad, dealltwriaeth ac arbenigedd y maent yn eu darparu, er mwyn ein helpu i ystyried dull system gyfan a chyflawni yn erbyn ein nod.