Neidio i'r prif gynnwy

Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ymrwymo i egwyddorion cydraddoldeb, hawliau dynol ac amrywiaeth yn yr holl waith yr ydym yn ei wneud.

Rydym yn edrych ar sut y mae pobl yn profi gwasanaethau drwy lygaid cleifion a pherthnasau.

Rydym yn gwirio pa mor dda y mae gwasanaethau'r GIG yn diwallu'r Safonau Ansawdd 2023, a ph'un ai yw gwasanaethau annibynnol yn diwallu'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol yng Nghymru (2011). 

Mae hyn yn cynnwys gwirio: 

  • Bod pawb yn cael eu trin ag urddas, parch, tosturi a charedigrwydd 
  • Bod anghenion unigolion yn derbyn sylw beth bynnag eu hunaniaeth a'u cefndir
  • Bod hawliau dynol pobl yn cael eu cynnal 
  • Pa mor dda y mae darparwyr yn defnyddio'r Ddeddf Galluedd Meddyliol i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau pobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau
  • Sut y mae gwasanaethau yn amddiffyn hawliau dynol pobl sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. 

Mae AGIC yn aelod o'r Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol, sydd yn cynnwys 20 corff sy'n monitro dalfeydd yn yr Alban, Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys dalfeydd yr heddlu, carchardai, dalfeydd y llysoedd, canolfannau cadw mewnfudwyr, dalfeydd milwrol, cartrefi plant diogel, a llefydd lle y mae pobl yn cael eu cadw o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl.

Mae AGIC hefyd yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Canolfan y GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.