Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin COVID-19

Dyma atebion i gwestiynau rydym wedi cael ein gofyn am ein gweithgaredd yn ystod COVID-19. Byddwn yn ychwanegu mwy o gwestiynau ac atebion i'r dudalen hon wrth i'r sefyllfa yn datblygu.

Ydy AGIC ar agor?

Rydym ar agor ar gyfer busnes o hyd ond mae ein staff i gyd yn gweithio gartref yn unol ag argymhellion y llywodraeth ac er mwyn diogelu eu hiechyd a'u llesiant eu hunain a phobl eraill. Mae hyn yn golygu bod ychydig o newidiadau i'r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau allanol.

Gan nad yw ein staff yn y swyddfa ar hyn o bryd, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o oedi wrth ddarllen post. Mae ffyrdd eraill o gysylltu â ni sy'n cynnwys:

  • Ymweld â'n gwefan
  • Os byddai'n well gennych, gallwch hefyd ein ffonio ar 0300 062 8163.
  • Gallwch anfon e-bost i HIW@gov.wales
  • Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith drwy ein dilyn ar Facebook a Twitter.

A fydd ffioedd yn cael eu hoedi neu eu hepgor yn sgil COVID-19 ac a oes unrhyw gymorth ariannol ar gael ar gyfer darparwyr annibynnol?

Bydd ffioedd cofrestru blynyddol sy'n ddyledus o 1 Ebrill 2020 yn cael eu gohirio tan yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Efallai y byddwch yn derbyn anfoneb, ond ni fyddwn yn casglu taliad ar hyn o bryd. Byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol â lleoliadau sydd ag unrhyw ffioedd sy'n weddill cyn y dyddiad hwnna.

Ceir manylion am gymorth ariannol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni allwn gynnig cyngor ar gymorth ariannol sydd ar gael i chi.

A yw'n ddiogel i'ch gwasanaeth aros ar agor?

Ni all AGIC roi cyngor i chi ar y mater hwn. Byddem yn eich cynghori i ddefnyddio gwefannau swyddogol iechyd cyhoeddus a'r llywodraeth a'u hadrannau ar gyngor ynghylch COVID-19. Mae'r rhain yn amlinellu'r union fusnesau a gwasanaethau a all aros ar agor a darparu gwasanaethau yn ystod y pandemig. Y brif neges gan y Llywodraeth yw y dylai pobl aros gartref oni fydd yn gwbl angenrheidiol; dylech wneud popeth o fewn eich gallu i annog pobl i ddilyn y cyngor hwn.

Rydym yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd unrhyw ganllawiau a gwybodaeth i chi fel darparwyr yn cael eu rhannu. Byddwn yn helpu i rannu'r manylion hyn os bydd angen.

Ceir dolenni isod i'r canllawiau diweddaraf sy'n cynnwys cyngor ar ba wasanaethau ddylai aros ar agor, amseroedd ymweld ar gyfer y darparwyr hynny sydd â gwelyau dros nos a chyngor i fusnesau y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt yn ariannol:

https://llyw.cymru/gweithwyr-iechyd-proffesiynol-coronafeirws

Ewch i'r tudalennau hyn yn rheolaidd er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ganllawiau a chyngor newydd a gaiff eu cyhoeddi.

A fydd gwasanaethau'n cael eu harolygu yn ystod y pandemig?

Rydym yn ymweld â lleoliadau gofal iechyd er mwyn cynnal arolygiadau ar y safle lle credwn fod hynny'n angenrheidiol. Fodd bynnag, rydym wedi diwygio ein dull o arolygu a sicrhau, a allai olygu yn hytrach nag ymweliad gennym ni, y gallwch dderbyn galwad ffôn neu gais am wybodaeth drwy ddulliau eraill.

Oes angen i wasanaethau roi gwybod i AGIC eu bod yn cau dros dro a phan fyddant yn ailagor?

Rydym am i chi roi gwybod ni os byddwch yn cau gwasanaethau dros dro neu'n ailagor y gwasanaethau hyn. Nid oes gofyniad rheoliadol i chi wneud hyn, ond rydym yn ceisio cadw cofnod o'r wybodaeth hon. Anfonwch e-bost i hiw@gov.wales gyda'r wybodaeth hon os yw'n bosibl.

Sut dylai gwasanaethau gofrestru yn ystod y pandemig/yr achosion o coronafeirws?

Mynediad cyfyngedig sydd gennym at geisiadau neu ddogfennaeth ategol a gaiff eu hanfon fel copi caled drwy'r post. Byddem yn eich annog i gyflwyno eich ceisiadau'n electronig neu fel arall bydd oedi cyn y bydd y tîm cofrestru yn cael eich gwybodaeth. Dylech hefyd gynnwys 'COVID-19' fel testun yr e-bost os ydych yn bwriadu cofrestru gwasanaeth sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r ymateb i COVID-19 Yna byddwn yn cysylltu â chi ac yn rhoi cyngor ar y camau nesaf. Byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau penodol i ddarparwyr sy'n cofrestru'r mathau hyn o wasanaethau yn ystod y dyddiau nesaf.

Dyma rai atebion i ymholiadau cyffredinol rydym wedi'u cael am gofrestru.

Cyfweliadau â rheolwyr cofrestredig

Byddwn yn cynnal y cyfweliadau hyn yn rhithiol drwy ddefnyddio Skype hyd y gellir gweld. Bydd gwiriadau datgelu a gwahardd a hunaniaeth hefyd yn cael eu cynnal yn rhithiol drwy ddefnyddio Skype a sganiadau.

Ymweliadau cyn cofrestru

Bydd yr holl wiriadau dogfennau yn cael eu gwneud yn rhithiol cyn yr ymweliad. Efallai y gofynnir i chi wneud fideo ohonoch yn cerdded drwy'r lleoliad a darparu lluniau o'r amgylchedd. Yna cynhelir ymweliadau cyn gynted ag y bydd y sefyllfa wedi dod i ben.

Tystysgrifau cofrestru

Caiff y rhain eu darparu fel copi caled a bydd angen llofnodi er mwyn eu derbyn o hyd.

Byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa a'n hymateb i hyn yn ystod yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod. Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr ein bod yn targedu ac yn canolbwyntio ein hadnoddau ar gefnogi'r system gofal iechyd, Llywodraeth Cymru a'r cyhoedd yn ystod y cyfnod digynsail a heriol hwn.