Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19: ymateb gan arolygiaethau Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Amlygiad Meddygol)

Ynghyd â’r rheoleiddwyr cyfatebol o'r Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Amlygiad Meddygol) - (IR(ME)R) - yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, rydym wedi cyhoeddi ymateb i epidemig cynyddol COVID-19. Dylai unrhyw un sy'n ymwneud â defnyddio offer meddygol ymbelydredd ïoneiddio darllen hyn.

At sylw:

  • Cyflogwyr ymbelydredd
  • Deiliaid dyletswyddau
  • Rheolwyr Gwasanaeth
  • Rheolwyr Llywodraethu
  • Arbenigwyr ar ffiseg meddygol
  • Y gymuned ymbelydredd

Diweddarwyd Awst 2020 

Arolygiadau

Byddwn yn ailgydio mewn gweithgarwch arolygu (yn rhithwir ac ar safleoedd) yn unol â risg y gwasanaeth. Caiff y rhain eu cynnal ar ôl cwblhau asesiadau risg priodol i ddiogelu deiliaid dyletswyddau, cleifion a staff arolygu'r awdurdod gorfodi. 

Y Sefyllfa Ddiweddaraf – 6 Mai

Rhoi sylweddau ymbelydrol

Rydym yn cydnabod efallai y bydd angen i chi adleoli gweithdrefnau penodol i safleoedd amgen. Os byddwch yn bwriadu trosglwyddo gwasanaethau, dylech wneud y canlynol:

  • cysylltu ag uned gymorth ARSAC i gael canllawiau ar ofynion trwyddedu'r cyflogwr ar gyfer y gwasanaethau hyn
  • hysbysu eich rheoleiddiwr:

Lloegr: Y Comisiwn Ansawdd Gofal yn COVID19IRMER@cqc.org.uk
Yr Alban: Gwella Gofal Iechyd yr Alban yn hcis.irmer@nhs.net – dylech hefyd roi gwybod am unrhyw newidiadau i wasanaethau sydd wedi symud eisoes
Gogledd Iwerddon: Registration@rqia.org.uk
Cymru: AGIC.DigwyddiadauIRMER@llyw.cymru

Caiff y wybodaeth hon ei rhannu hefyd â chyrff rheoleiddio perthnasol eraill er mwyn llywio ymateb rheoleiddio addas.

Dylech ystyried unrhyw broses trosglwyddo gwasanaethau yn ofalus a chynnal asesiad risg cyn i chi roi'r newidiadau ar waith, gan fod angen bodloni gofynion rheoliadol eraill yn ogystal â thrwydded y cyflogwr.

2 Ebrill

Mewn ymateb i'r sefyllfa sy'n parhau i ddatblygu o ran COVID-19, mae'r arolygiaethau sy'n gyfrifol am y Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Amlygiad Meddygol) ar gyfer y Deyrnas Unedig wedi cydweithio â byrddau iechyd, y llywodraeth a byrddau proffesiynol i lunio ymateb dros dro. Rydym wedi ystyried y bil seneddol newydd a chyngor parhaus y llywodraeth. Caiff hyn ei roi ar waith am gymaint o amser ag y bydd ei angen er mwyn ymateb i'r sefyllfa a byddwn yn parhau i'w adolygu'n rheolaidd.

Rydym yn annog hyblygrwydd o ran y gofynion deddfwriaethol a rheoliadol ac yn sicrhau na chaiff diogelwch cleifion ei beryglu. Mae ein hymateb yn gymesur i'r bygythiad a'i nod yw ailgyfeirio adnoddau i’r gweithgareddau radiolegol sy’n peri’r risg uchaf. Dylid darllen yr ymateb hwn yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan unrhyw gyrff rheoleiddio perthnasol eraill.

Hyfforddiant

Rydym yn deall y gallai grwpiau staffio gael eu hadleoli ar yr adeg hon. Mae’n bwysig eich bod yn cwblhau’r hyfforddiant ac yn cael eich goruchwylio yn enwedig ar gyfer gweithdrefnau cymhleth a dosau uchel, er enghraifft radiotherapi, tomograffeg gyfrifiadurol, meddyginiaeth niwclear a radioleg/cardioleg ymyriadol. Rydym yn disgwyl i bob aelod o’r staff weithio o fewn cyfyngiadau eu sgiliau, gwybodaeth a’u profiadau bob amser. Er na fydd cofnodion hyfforddiant llawn a dogfennau cysylltiedig ar gael bob amser o bosibl, rydym yn eich annog i ddefnyddio matricsau hyfforddiant i gefnogi prosesau adleoli.

Ni ddylai unrhyw aelod o’r staff ddefnyddio offer radiolegol heb gwblhau unrhyw hyfforddiant.

Dylid ymchwilio i drefniadau amgen er mwyn sicrhau bod hyfforddiant hanfodol yn cael ei ddarparu ar yr holl offer newydd, gan gynnwys ar ffurf fideo-gynadledda ac e-ddysgu.

Profi offer

Rhaid i ymarfer fod yn seiliedig ar asesiadau risg lleol a chyngor gan eich arbenigwr ar ffiseg meddygol. Rhaid i chi flaenoriaethu offer hanfodol a dos uchel ac ystyried ei oedran a’i berfformiad hanesyddol. Rhaid i gyflogwyr sicrhau bod offer ar gyfer profion a gwaith cynnal a chadw hanfodol ar gael gan gydymffurfio â pholisïau rheoli heintiau lleol. Wrth brynu pob darn newydd o offer, dylech gwblhau’r broses hanfodol o gomisiynu a llunio protocolau.

Deiliaid dyletswyddau

Os bydd rheoleiddwyr yn fodlon cofrestru myfyrwyr y flwyddyn olaf dros dro yn ogystal ag unigolion sydd wedi cofrestru o’r blaen, mae’n bosibl y caiff y gweithwyr proffesiynol hyn weithredu fel deiliaid dyletswyddau o dan y Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Amlygiad Meddygol) o fewn cwmpas hawl penodol gan eu cyflogwyr. 

Ni fydd gan unrhyw weithiwr proffesiynol ym maes gofal iechyd nad yw wedi’i gofrestru gan gorff a gydnabyddir gan Ddeddf Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 hawl i wneud hyn yn ôl y gyfraith o dan y rheoliadau.

Ffiseg feddygol

Mae angen i wasanaethau flaenoriaethu’r tasgau sy’n hanfodol ac ar frys, a gohirio tasgau y gellir eu hoedi sy’n peri llai o risg i gleifion. Dylai cyflogwyr geisio cyngor gan eu hadrannau ffiseg meddygol ar yr adeg hon a thrafod unrhyw newidiadau i leoliad offer, defnydd sydd wedi’i addasu a hyfforddiant.

Rhoi Sylweddau Ymbelydrol

Rydym yn cydnabod efallai y bydd angen adleoli gweithdrefnau penodol i safleoedd amgen. Os bydd hyn wedi'i drefnu, dylai darparwyr gysylltu ag uned gymorth ARSAC i gael canllawiau ar ofynion trwyddedu i gyflogwyr ar gyfer y gwasanaethau a drosglwyddwyd. Dylid ystyried pob gwasanaeth a drosglwyddir yn ofalus a chynnal asesiad risg cyn ei roi ar waith gan fod angen bodloni gofynion rheoliadol eraill yn ogystal â thrwydded y cyflogwr ei hun.

Cysylltiadau damweiniol neu anfwriadol sylweddol

Ni fyddwn yn gwneud newidiadau i’n canllawiau, gan gynnwys amserlenni ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau. Fodd bynnag, os bydd cyflogwyr dan bwysau, rydym yn eich annog i roi blaenoriaeth i hysbysiadau risg uchel (megis dos uchel neu faterion clinigol sylweddol). Byddwn yn parhau i ymchwilio i hysbysiadau gan ddilyn y dull o raddio. Os bydd gwir angen, mae’n bosibl y byddwn yn cyflawni ein swyddogaethau arolygu er mwyn sicrhau nad yw’r cleifion yn wynebu risg.

Mae’n bwysig cynnal gwiriadau diogelwch allweddol o hyd cyn pob amlygiad, gan gynnwys ID, beichiogrwydd, ffactorau amlygiad a moddolrwydd/rhan o’r corff.

Gweler rhagor o wybodaeth gan gyrff proffesiynol a phwyllgorau cynghori:

https://www.efomp.org/

https://www.sor.org/

https://www.ipem.ac.uk/

https://www.bnms.org.uk/

https://www.rcr.ac.uk/

https://www.bir.org.uk/

https://www.gov.uk/government/organisations/administration-of-radioactive-substances-advisory-committee