Gwaith sicrwydd arferol y GIG yn ailddechrau
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ailddechrau gwaith arferol sy'n gysylltiedig â'n gwiriadau ansawdd a'n gweithgarwch arolygu diwygiedig yn y GIG.
Rydym wedi ailddechrau gwaith sy'n gysylltiedig â'n gwiriadau ansawdd a'n gweithgarwch arolygu diwygiedig yn y GIG. Gwnaethom benderfynu atal gwaith o'r fath ychydig cyn y Nadolig o ganlyniad i'r pwysau ar wasanaethau'r GIG yng Nghymru. Gwnaethom ddweud ar y pryd y byddem yn adolygu ein penderfyniad bob wythnos. Gydag ystod o ddangosyddion yn dangos arwyddion cadarnhaol mewn perthynas â phwysau o ganlyniad i COVID-19 a'r ffaith bod y rhaglen frechu yn gwneud cynnydd rhagorol, rydym wedi penderfynu ailddechrau ein gwaith.
Ers y Nadolig, rydym wedi parhau i gyflawni ein swyddogaethau drwy ein gwaith sicrwydd ehangach, drwy ein swyddogaethau gwybodaeth a phryderon, yn ogystal â thrafodaethau â gwasanaethau gofal iechyd. Mae'r penderfyniad i ailddechrau'r gwaith yn golygu y byddwn yn cynnal gwiriadau ansawdd arferol ar gyfer lleoliadau'r GIG unwaith eto, yn unol â'r dull gweithredu diwygiedig rydym wedi'i fabwysiadu yn ystod y pandemig. Caiff y gwiriadau hyn eu cynnal o bell, ond mae ein dull seiliedig ar risg o gynllunio yn golygu y byddwn yn cynnal arolygiadau ffisegol o leoliadau os byddwn o'r farn bod angen gwneud hynny.
Byddwn hefyd yn parhau i gyhoeddi crynodebau ac adroddiadau o'n gwaith ar ein gwefan, fel y gwnaethom drwy gydol y pandemig.