Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn gwneud cynnydd da i fynd i'r afael ag argymhellion er gwaethaf y pandemig, yn ôl adroddiad ar y cyd.

Ym mis Tachwedd 2019, canfu Adolygiad ar y Cyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, nifer o wendidau sylfaenol yn nhrefniadau llywodraethu’r Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag ansawdd y gofal a diogelwch cleifion a gwnaed 14 o argymhellion.

Mae ein hadroddiad ar y cyd, a gyhoeddwyd heddiw (18 Mai), yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn y 14 o argymhellion gwreiddiol. Rydym wedi ystyried yr effaith y mae pandemig COVID-19 wedi'i chael ar allu’r Bwrdd Iechyd i ymateb i’r argymhellion, ond o ystyried y diffygion sylfaenol a nodwyd yn 2019, roedd yn bwysig nodi’r cynnydd y mae’r Bwrdd Iechyd wedi ei wneud. Gwnaethom gynnal gweithgareddau casglu tystiolaeth tebyg i’r rhai yn ein hadolygiad blaenorol. Yn unol â’r gofynion parhaus i gadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngiadau ar ein gwaith archwilio ac arolygu ar y safle ar adeg y gwaith maes, bu'n rhaid cwblhau ein gwaith o bell.

Drwy ein gwaith, gwnaethom ganfod bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol i fynd i’r afael â nifer o’r argymhellion er gwaethaf yr heriau y mae wedi'u hwynebu wrth ymateb i’r pandemig.

Gwelsom fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd ar lefel strategol a gweithredol er mwyn sicrhau bod mwy o bwyslais ar ansawdd, diogelwch cleifion a risg. Mae trefniadau i graffu ar ansawdd a diogelwch cleifion ar lefel sefydliadol wedi gwella hefyd.

Mae’r ffordd y caiff digwyddiadau, pryderon a chwynion eu rheoli wedi gwella ac mae'r Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau cadarnhaol i wella diwylliant sefydliadol a dysgu. 

Mae’n amlwg bod yr her o ymateb i'r pandemig wedi atal cynnydd mewn rhai meysydd, gan olygu nad yw rhai camau gweithredu wedi’u cwblhau mor gyflym â’r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Mae hyn yn golygu bod gwaith i'w wneud o hyd ym mhob un o'r meysydd lle nodwyd argymhellion yn 2019.

Ceir rhagor o fanylion am y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion unigol yn ein hadroddiad ar y cyd.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:  

Yn wyneb y pandemig, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gwneud llawer o waith i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn 2019. Mae mwy o bwyslais ar ansawdd, diogelwch cleifion a risg ynghyd â chryn ymrwymiad, ysgogiad a brwdfrydedd ymhlith y staff ac awydd clir i wneud pethau'n iawn. Mae angen cynnal yr egni hwn er mwyn ymgorffori'r gwaith a wnaed hyd yma, ac adeiladu arno.”

Meddai Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru:

Mae adroddiad dilynol heddiw yn cydnabod y gwaith pwysig y mae'r Bwrdd Iechyd wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd gennym mewn perthynas â llywodraethu a diwylliant sefydliadol yn ôl yn 2019. Mae'r camau gweithredu a gymerwyd yn golygu y dylai'r Bwrdd Iechyd fod mewn sefyllfa well nawr i nodi unrhyw broblemau a all godi o ran ansawdd a diogelwch gofal y cleifion, ac ymateb iddynt. Fodd bynnag, mae mwy o waith i'w wneud o hyd ac mae'n bwysig y cynhelir y momentwm yng nghyd-destun yr heriau ehangach a fydd yn ein hwynebu wrth i ni ddechrau adfer yn sgil y pandemig.