Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gweithredol AGIC am 2019–20 wedi’i cyhoeddi

Rydyn ni’n wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredol am 2019–20. Mae’n gosod ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae’r cynllun yn cynnwys manylion y gwaith rydym yn bwriadu’i wneud yn ystod 2019–20 tuag at gyflawni ein blaenoriaethau strategol. 

Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am y meysydd eang rydym yn bwriadu eu hadolygu, ac yn adlewyrchu’r ffordd y byddwn yn rheoli ein rhaglen waith. Mae’r cynllun yn sicrhau ein bod yn bodloni ein gofynion statudol ac yn canolbwyntio ar feysydd o bryder a nodwyd gan y wybodaeth a gasglwn.

Dywedodd ein Prif Weithredwr Dr Kate Chamberlain:

“Wrth i ni symud drwy gyfnod o dwf a newid sylweddol yn y sefydliad, bydd y flwyddyn hon yn canolbwyntio’n helaeth ar feithrin ein gallu i gyflawni mwy ar gyfer pob un o’n blaenoriaethau strategol ac i baratoi ar gyfer ymateb i fframwaith deddfwriaethol newydd yn y dyfodol. Byddwn yn hefyd yn parhau i weithio i esblygu ac addasu ein dulliau o weithio wrth i bobl gael mynediad i fwy a mwy o’u gwasanaethau iechyd a gofal yn eu cartrefu a’u cymunedau eu hunain gan dimau amlbroffesiynol, amlddisgyblaethol.”

“Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau ar ein gwaith, eich profiad o wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru neu ar wasanaethau gofal iechyd yma yn gyffredinol."