Cynllun Strategol a Gweithredol AGIC ar gyfer 2021-2022
Rydym wedi cyhoeddi ein cynllun strategol a gweithredol ar gyfer 2021-2022.
Dywedodd Alun Jones, y Prif Weithredwr Dros Dro:
O ystyried y cyfnod digynsail hwn, rwyf wedi penderfynu rhyddhau cynllun strategol a gweithredol un flwyddyn er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal ein ffocws ac yn parhau'n briodol ac yn gymesur yn ein gwaith wrth i wasanaethau barhau i ddelio â'r pandemig, a dechrau’r broses adfer.
Bydd hyn yn ein galluogi i gynnal gwerthusiad priodol o'n gwaith dros y tair blynedd diwethaf a chynnal y lefel gywir o weithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid, wrth inni ddatblygu strategaeth tymor hwy o 2022.
Mae'r cynllun yn nodi ein nodau a'n huchelgeisiau ar gyfer y flwyddyn i ddod ac nid ydym wedi newid ein pedair blaenoriaeth, sef:
- sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf posibl;
- cymryd camau lle na chaiff safonau eu cyrraedd;
- bod yn fwy gweladwy;
- datblygu ein pobl a'n sefydliad i wneud y gwaith gorau posibl.
Rydym yn rhagweld y bydd effaith COVID-19 ar ein gwaith yn parhau i fod yn sylweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Fodd bynnag, wrth i'r rhaglen frechu ddiogelu mwy a mwy o'r boblogaeth, byddwn yn canolbwyntio ar ddychwelyd i'n hamrywiaeth lawn o weithgareddau sicrwydd ac arolygu, gan adeiladu ar ein ffyrdd gwell o weithio, cymryd camau lle na chaiff safonau eu cyrraedd, ond hefyd gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal i adfer yn fwy cyffredinol. Mae ein cynllun strategol a gweithredol yn pennu ein dull gweithredu ar gyfer cyflawni hyn, yn ogystal â'r ffordd y byddwn yn symud ymlaen fel sefydliad mewn nifer o feysydd pwysig.
Darllenwch ein cynllun yma.