Gellir gwneud mwy yng Nghymru i wella prosesau gwneud penderfyniadau ynghylch peidio ag adfywio
Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn nodi canfyddiadau adolygiad o Benderfyniadau Peidiwch â Dechrau Adfywio Cardiopwlmonaidd (DNACPR) ar gyfer oedolion yng Nghymru.
Triniaeth achub bywyd mewn argyfwng yw adfywio cardiopwlmonaidd, neu CPR, sy'n cael ei defnyddio pan fydd calon ac ysgyfaint person yn peidio â gweithredu. Mae penderfyniadau DNACPR yn rhan bwysig o ofal diwedd oes, ac yn ystod ein bywydau, bydd sawl un ohonom yn rhan o'r trafodaethau hyn, naill ai ar lefel bersonol neu mewn perthynas ag anwylyd. Mae'n bwysig bod y trafodaethau hyn, a'r penderfyniadau a wneir, yn cael eu cynnal mewn ffordd sensitif ac effeithiol er mwyn parchu dymuniadau a safbwyntiau pawb dan sylw. Os cânt eu cynnal yn dda, gall trafodaethau DNACPR fod yn brofiad cadarnhaol, gan gynnig eglurder ar adeg o ansicrwydd, er mwyn sicrhau bod cyn lleied o bethau â phosibl yn tarfu ar gyfnod mor bwysig ac emosiynol.
Ystyriodd yr adolygiad a yw cleifion yn cael eu cynnwys yn weithredol wrth wneud penderfyniadau ynghylch DNACPR ac a yw'r penderfyniadau hynny'n cael eu cofnodi a'u cyfleu'n glir rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae ein canfyddiadau'n nodi enghreifftiau clir o arferion canmoladwy ledled Cymru, ond mae lle i wella. Yn benodol, gwelsom fod angen cryfhau'r cyfathrebu am benderfyniadau DNACPR ymysg timau gofal iechyd, a gyda chleifion a'u hanwyliaid, er mwyn sicrhau bod pobl yn deall y rhesymau dros y penderfyniadau a'r cynlluniau o ran gofal yn llawn.
Un o'r meysydd allweddol a'r pwyntiau ffocws a gododd yn ystod ein hadolygiad, ac y mae angen ei wella, yw'r angen i gofnodi gwybodaeth gywir ac effeithiol ar ffurflenni DNACPR. Defnyddir y ffurflen i roi gwybod i glinigwyr na ddylid dechrau CPR pan fydd unigolyn yn marw, ac mae wedi'i dylunio fel bod modd ei hadnabod yn hawdd a'i dilysu'n gyflym ar un dudalen, gan alluogi clinigwyr i wneud penderfyniadau cyflym ynghylch triniaeth. Gwnaethom edrych ar tua 280 o ffurflenni a gwelsom anghysondebau o ran ansawdd y wybodaeth allweddol a gofnodwyd. Roedd rhai o'r ffurflenni wedi'u cwblhau'n dda, ond roedd eraill yn anghyflawn neu roedd hi'n anodd darllen y wybodaeth ysgrifenedig. Fodd bynnag, roedd yn gadarnhaol gweld rhai enghreifftiau da o esboniadau cryno a thrylwyr o drafodaethau â chleifion, a naratifau manwl yng nghofnodion y cleifion i ategu'r ffurflen DNACPR.
Mae cyfathrebu yn chwarae rôl hanfodol wrth wneud penderfyniadau DNACPR effeithiol. Mae cyfleoedd i wella yn y maes hwn, er mwyn sicrhau bod trafodaethau am DNACPR yn drylwyr ac yn llawn gwybodaeth. Pwysleisiodd y rhan fwyaf o'r staff y gwnaethom siarad â nhw bwysigrwydd cyfathrebu mewn ffordd agored, gonest ac wedi'i phersonoli. Fodd bynnag, gellid gwella hyn ymhellach drwy gynnal trafodaethau DNACPR â chleifion yn gynharach yn ystod eu salwch, yn hytrach na'u cynnal tuag at ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn hanfodol er mwyn helpu pobl i deimlo eu bod yn cael digon o wybodaeth ac i ddeall beth fydd yn digwydd, neu na fydd yn digwydd, pan fydd y penderfyniad i beidio ag adfywio wedi'i wneud. Roedd yn siomedig gweld bod bron hanner yr ymatebwyr i'n harolwg cyhoeddus yn teimlo nad ystyriwyd eu hanghenion o ran hygyrchedd yn ystod trafodaethau DNACPR, a dywedodd y rhan fwyaf ohonynt na chafodd eu hanghenion na'u dewisiadau o ran cyfathrebu eu trafod.
Mae deall dymuniadau claf ar ddiwedd ei oes yn elfen hanfodol o ofal da. Gwelsom y gellid gwneud mwy i wella ymwybyddiaeth pobl o DNACPR a'u gallu i gael gafael ar adnoddau gwybodaeth, er mwyn iddynt allu deall y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR a dod i delerau â hi. Er bod canfyddiadau'r adolygiad wedi nodi bod adnoddau ar gael, roedd yn siomedig bod tri chwarter yr ymatebwyr i'n harolwg cyhoeddus wedi dweud na chawsant wybodaeth ategol am y penderfyniad i beidio ag adfywio.
Un o'r materion allweddol a nodwyd drwy ein hadolygiad oedd galluedd meddyliol cleifion i gyfleu penderfyniadau ynghylch CPR, a pha mor dda yr oedd y manylion hyn wedi'u cofnodi ar y ffurflen DNACPR. Er bod yr adran hon o'r ffurflen wedi'i chwblhau'n dda ar y cyfan i bobl â galluedd, nid oedd hyn yn wir bob amser i'r rheini heb alluedd. Roedd rhai ffurflenni a chofnodion clinigol yn anghyson neu nid oeddent yn cynnwys tystiolaeth bod asesiad o alluedd meddyliol wedi'i gynnal. Ar sail y cofnodion a welsom, ni chawsom sicrwydd bod y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR bob amser yn cael ei chwblhau'n unol â Pholisi Cymru gyfan i gleifion yr ystyriwyd nad oedd ganddynt alluedd.
Roedd yn bryderus gweld bod bron un rhan o dair o'r staff a ymatebodd i'n harolwg yn teimlo nad oedd y trefniadau cyfathrebu ar draws timau gofal iechyd mewn perthynas â DNACPR yn effeithiol o gwbl. Un o'r themâu a ddaeth i'r amlwg drwy ein harolwg oedd yr angen am drefniadau effeithiol ar gyfer rhannu gwybodaeth â thimau gofal iechyd, gan gyfeirio'n benodol at yr angen am storfa electronig i Gymru gyfan ar gyfer ffurflenni DNACPR. Byddai system o'r fath yn helpu darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal i gael gafael ar wybodaeth am benderfyniad DNACPR yn gyflym.
Roedd hyfforddiant a chymorth i staff mewn perthynas â thrafodaethau DNACPR a'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR yn thema gyson yn ein hadolygiad. Er bod modiwlau hyfforddiant, adnoddau a gwybodaeth ar gael yn genedlaethol i helpu clinigwyr, roedd eu hymwybyddiaeth o'r rhain, neu eu gallu i gael gafael arnynt, yn fater a godwyd dro ar ôl tro. Mae'r adnoddau hyn yn werthfawr a gallant helpu i sicrhau y gellir cynnal trafodaethau DNACPR mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae'n bwysig nodi bod y staff y gwnaethom ymgysylltu â nhw yn anelu at gefnogi pobl â'r urddas a'r parch y maent yn eu haeddu ar ddiwedd eu hoes. Gwelsom enghreifftiau cadarnhaol o drafodaethau DNACPR a oedd wedi'u cynnal yn dda ac mewn modd amserol cyn i'r unigolyn gyrraedd diwedd ei oes. Fodd bynnag, gall yr adeg hon fod yn heriol ac yn ofidus i bawb dan sylw, ac weithiau ni fydd llawer o amser i gynnal sgyrsiau trylwyr, yn enwedig pan fydd argyfwng annisgwyl yn codi.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Mae'n amlwg bod deall dymuniadau claf ar ddiwedd ei oes yn elfen hanfodol o ofal da, ac rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth ofalus i gynnwys yr adroddiad hwn a chanfyddiadau cyffredinol ein hadolygiad. Rwyf hefyd yn disgwyl i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ystyried yr adborth gan aelodau o staff a'r cyhoedd a nodir drwy'r adroddiad, er mwyn ystyried sut y gall yr adborth hwn lywio gwelliannau i'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR.
Rhaid i mi achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r staff sy'n cymryd rhan mewn trafodaethau am benderfyniadau DNACPR, ac i'r rheini sy'n darparu gofal a chymorth i bobl ar ddiwedd eu hoes. Mae tosturi ac ymroddiad y rhai y gwnaethom ymgysylltu â nhw drwy gydol y gwaith hwn yn galonogol ac yn rhoi sail gadarn a chadarnhaol i ni wella arni.