Neidio i'r prif gynnwy

Llawlyfr Llywodraethu'r Cyngor Meddygol Cyffredinol

Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi cyhoeddi llawlyfr diwygiedig ar gyfer sefydliadau sy'n cyflogi, yn trefnu contractau neu'n goruchwylio arfer meddygon yn y DU: Llywodraethu clinigol effeithiol ar gyfer y proffesiwn meddygol.

Wedi'i gynllunio fel canllaw defnyddiol ar gyfer arweinwyr sefydliadau gofal iechyd, mae'n amlinellu'r rôl y dylai byrddau a chyrff llywodraethu ei chwarae wrth sicrhau bod trefniadau llywodraethu clinigol effeithiol ar waith i feddygon a sut y gall hyn gyfrannu at safon uchel o ofal i gleifion.  

Mae'r llawlyfr yn cynnig cyngor cliriach ynglŷn â phrosesau llywodraethu clinigol i feddygon gan gynnwys arfarniadau blynyddol, rheoli pryderon yn ymwneud â meddygon a gwiriadau cyn cyflogi.

Cyhoeddwyd y canllaw am y tro cyntaf yn 2013, yn fuan ar ôl cyflwyno'r broses ailddilysu – y broses sy'n galluogi meddygon i ddangos eu bod yn rhoi gofal da i gleifion ac yn addas i ymarfer. Mae'r newidiadau'n mynd i'r afael ag argymhellion Syr Keith Pearson yn ei adroddiad yn 2017 Taking revalidation forward _sy'n nodi y dylai'r llawlyfr adlewyrchu datblygiadau dysgu a systemig o bum mlynedd cyntaf y broses ailddilysu.

Mae wyth sefydliad arall ar hyd a lled y DU gan gynnwys rheoleiddwyr system, arweinwyr system, a chyrff gwella wedi gweithio gyda'i gilydd i ddiweddaru'r llawlyfr er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer yr amrywiaeth o leoliadau gwahanol y gall meddygon weithio ynddynt. 

Gallwch ddarllen y llawlyfr diwygiedig yn gwefan GMC.