Neidio i'r prif gynnwy

Practisau meddygon teulu

Rydym yn arolygu practisau meddygon teulu yng Nghymru i wirio bod cleifion yn derbyn gofal da.

Sut rydym yn cynnal arolygiadau:

Rydym yn edrych ar y ffordd mae practisau meddygon teulu yn gwneud y canlynol:

Caiff ein harolygiadau o bractisau meddygon teulu eu cyhoeddi fel arfer. Mae gwasanaethau'n cael hyd at 12 wythnos o rybudd am arolygiad.

Cynhelir ein harolygiadau gan un o arolygwyr AGIC, dau adolygwr allanol (Meddyg Teulu a Rheolwr Practis sydd â phrofiad ymarferol diweddar mewn practis cyffredinol) ac adolygwr lleyg gwirfoddol.

Os hoffech gael copi o'n gweithlyfr arolygu, cysylltwch â hiwinspections@gov.wales yn egluro pa fath o weithlyfr rydych yn eisiau.