Neidio i'r prif gynnwy

Sefydliadau gofal iechyd sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio at ddibenion meddygol, e.e. pelydrau-X

Beth yw ymbelydredd ïoneiddio mewn gofal iechyd?

Caiff ymbelydredd ïoneiddio mewn gofal iechyd ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol a ddaw o dan dri chategori cyffredinol:

  1. Delweddu diagnostig: e.e. pelydrau-X i dynnu lluniau o ddannedd ac esgyrn mewn practisau deintyddol ac ysbytai
  2. Radiotherapi: e.e. i drin clefyd fel mathau penodol o ganser
  3. Meddygaeth niwclear: e.e. i wneud diagnosis a phenderfynu ar ddifrifoldeb amrywiaeth o glefydau ac abnormaleddau eraill o fewn y corff, neu eu trin, gan ddefnyddio ychydig o ddeunydd ymbelydrol

Mae'n rhaid i'r holl sefydliadau gofal iechyd sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio gydymffurfio â  Y Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddio Meddygol) 2017a’r diwygiadau dilynol a wnaed iddynt (2018).

Pwy sy’n cael eu harolygu gennym

Rydym yn arolygu sefydliadau gofal iechyd y GIG sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio at ddibenion meddygol  yng Nghymru, i sicrhau eu bod yn ddiogel i bobl sy'n derbyn triniaeth. 

Sut rydym yn monitro cydymffurfiaeth

Mae AGIC yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddio Meddygol) 2000 drwy:

  • Arolygu sefydliadau sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio
  • Adolygu digwyddiadau a hysbyswyd i ni sy'n arwain at amlygiad ychwanegol neu anfwriadol
  • Ystyried sut mae practisau deintyddol yn cydymffurfio â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddio Meddygol) 2000, fel rhan o'n harolygiadau o bractisau deintyddol 

Sut rydym yn arolygu

Rydym yn edrych ar sut mae gwasanaethau yn:

Mae ein harolygiadau o wasanaethau gofal iechyd sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio fel arfer yn rhai lle rhoddir rhybudd. Mae gwasanaethau yn derbyn hyd at 12 wythnos o rybudd am arolygiad.

Cynhelir yr arolygiadau gan o leiaf un arolygydd AGIC, ac fe'u cefnogir gan uwch-swyddog clinigol o Iechyd Cyhoeddus Lloegr, yn gweithredu mewn rôl ymgynghorol. 

Os hoffech gopi o ein llyfr gwaith arolygu, cysylltwch â hiwinspections@llyw.cymru yn egluro pa fath o weithlyfr rydych yn eisiau.