Neidio i'r prif gynnwy

Ysbytai

Ysbytai Rydym yn arolygu ysbytai'r GIG yng Nghymru i sicrhau bod pobl yn derbyn gofal da.

Sut rydym yn arolygu

Rydym yn arolygu ysbytai'r GIG mewn ffyrdd gwahanol, ac mae'r rhain yn cynnwys:

  • Arolygiadau trylwyr o ward sengl: rydym yn cynnal arolygiad trylwyr a manwl o un ward
  • Arolygiadau o nifer o wardiau: rydym yn ymweld â nifer o wardiau ac adrannau o fewn un safle ysbyty i nodi problemau neu themâu mae'n bosibl eu bod yn berthnasol i'r holl ysbyty
  • Arolygiadau o nifer o ysbytai: rydym yn ymweld â nifer o ysbytai o fewn yr un bwrdd iechyd i asesu'r gwaith o lywodraethu a darparu gwasanaethau cyfan 

Rydym yn edrych ar sut mae gwasanaethau yn:

  • Diwallu Safonau Ansawdd 2023
  • Diwallu unrhyw safonau a chanllawiau proffesiynol perthnasol eraill lle bo'n briodol

Fel arfer, mae ein harolygiadau o ysbytai yn ddirybudd. Mae hyn yn ein galluogi i weld gwasanaethau yn y modd y maent fel arfer yn gweithredu. Nid yw'r gwasanaeth yn derbyn unrhyw rybudd ymlaen llaw ar gyfer arolygiad dirybudd.

Cynhelir ein harolygiadau gan o leiaf un arolygydd AGIC, adolygydd allanol (gyda phrofiad proffesiynol perthnasol) ac adolygydd lleyg gwirfoddol (i siarad â chleifion am eu profiadau o ofal).

Mae canfyddiadau ein harolygiadau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Os hoffech gopi o ein llyfrau gwaith arolygu, cysylltwch â hiwinspections@llyw.cymru yn egluro pa fath o weithlyfr rydych yn eisiau.