Rydym yn arolygu pob math o bractisau deintyddol, gan gynnwys y rhai sy'n gwneud gwaith preifat, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal da.
Sut rydym yn arolygu
Rydym yn edrych ar sut mae deintyddion yn:
- Diwallu Safonau Ansawdd 2023
- Cydymffurfio â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddio Meddygol) 2000 (a’u diwygiadau dilynol yn 2006 a 2011) (lle bo'n berthnasol)
- Diwallu unrhyw safonau a chanllawiau proffesiynol perthnasol eraill, megis Safonau'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer y Tîm Deintyddol
Mae ein harolygiadau o ddeintyddion fel arfer yn rhai lle rhoddir rhybudd. Mae gwasanaethau yn derbyn hyd at 12 wythnos o rybudd am arolygiad.
Cynhelir ein harolygiadau gan arolygydd AGIC ynghyd ag adolygydd allanol sy’n ddeintydd â phrofiad ymarferol diweddar o ddeintyddiaeth.
Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi arweiniad ar yr hyn y byddwn yn edrych arno yn ystod arolygiad.
Os hoffech gopi o ein llyfrau gwaith arolygu, cysylltwch â agic.arolygiadau@llyw.cymru yn egluro pa fath o weithlyfr rydych yn eisiau.