Rydym yn arolygu gwasanaethau iechyd meddwl y GIG yng Nghymru i wirio a yw pobl yn derbyn gofal da.
Sut rydym yn arolygu
Rydym yn edrych ar sut mae gwasanaethau yn:
- Diwallu Safonau Iechyd a Gofal 2015
- Cydymffurfio â Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ac yn gweithredu'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
- Diwallu unrhyw safonau a chanllawiau proffesiynol perthnasol eraill lle bo'n briodol
Fel arfer, mae ein harolygiadau o iechyd meddwl yn ddirybudd. Mae hyn yn ein galluogi i weld gwasanaethau yn y modd y maent fel arfer yn gweithredu. Nid yw'r gwasanaeth yn derbyn unrhyw rybudd ymlaen llaw ar gyfer arolygiad dirybudd.
Cynhelir yr arolygiadau gan o leiaf un arolygydd AGIC, adolygydd allanol (gyda phrofiad proffesiynol perthnasol) ac adolygydd lleyg gwirfoddol (i siarad â chleifion am eu profiadau o ofal).
Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi arweiniad ar yr hyn y byddwn yn edrych arno yn ystod arolygiad. Os hoffech gopi o ein llyfr gwaith arolygu, cysylltwch â hiwinspections@llyw.cymru yn egluro pa fath o weithlyfr rydych yn eisiau.
Dogfennau
- Cyhoeddedig404 KB- pdf