Neidio i'r prif gynnwy

Mae adolygiad AGIC o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn canfod bod oedi wrth drosglwyddo, lefelau staffio canolfannau galwadau a hyfforddiant staff yn achos pryder

Mae oedi wrth drosglwyddo cleifion i'r ysbyty, sy'n golygu bod llai o ambiwlansys ar gael, yn digwydd yn aml, yn ôl adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) o Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Mae oedi o'r fath yn cael effaith sylweddol ar allu'r gwasanaeth i ymateb i'r galw, gan gynyddu'r risg o ganlyniadau gwael i'r cleifion. 

Nododd yr adolygiad hefyd fod amgylchedd gwaith llawn pwysau a straen yn cael effaith negyddol ar lesiant y staff yng Nghanolfannau Cyswllt Clinigol Gwasanaethau Meddygol Brys yr Ymddiriedolaeth, gyda lefelau staffio annigonol yn effeithio ar ddarparu'r gwasanaeth yn ddiogel. Hefyd, cododd y staff bryderon gydag AGIC fod angen gwella'r hyfforddiant a'r cymorth roeddent yn eu cael er mwyn iddynt gyflawni eu rolau yn effeithiol. 

Caiff y canfyddiadau eu nodi mewn adroddiad a gyhoeddir heddiw [30 Medi 2020] gan AGIC, ar ôl iddo adolygu Trefniadau Rheoli Cleifion yn nhair Canolfan Cyswllt Clinigol y Gwasanaethau Meddygol Brys. Cynhaliwyd y gwaith maes adolygu cyn pandemig COVID-19, sydd wedi peri oedi cyn cyhoeddi'r adroddiad.

Asesodd yr adolygiad sut y caiff cleifion eu rheoli gan Ganolfannau Cyswllt Clinigol Gwasanaethau Meddygol Brys yr Ymddiriedolaeth, o'r adeg pan ddaw cais am ambiwlans i law, hyd at yr adeg pan fydd yr ambiwlans yn cyrraedd y claf. Ystyriodd yr adolygiad hefyd sut y caiff y staff sy’n gweithio yng Nghanolfannau Cyswllt Clinigol y Gwasanaethau Meddygol Brys eu cefnogi i ymgymryd â’u rolau perthnasol, a’r adnoddau sydd ar gael i’w cefnogi i wneud hynny. 

Dywedodd staff Canolfannau Cyswllt Clinigol y Gwasanaethau Meddygol Brys wrth AGIC fod y lefelau staffio yn effeithio ar y ffordd y darperir gwasanaethau a llesiant a morâl y staff. Fodd bynnag, mae'r adolygiad hefyd yn cydnabod bod Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymdrechu i gynyddu adnoddau'r gweithlu. O ran hyfforddiant, dywedwyd wrth AGIC bod nifer o'r staff o'r farn bod angen rhagor o hyfforddiant arnynt er mwyn iddynt fod yn fwy effeithiol yn eu rolau. 

Nododd yr adolygiad hefyd fod ethos tîm cryf mewn amgylchedd llawn straen, gyda'r staff yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau, yn aml o dan amgylchiadau anodd iawn.  Mae'r adolygiad yn pwysleisio'r effaith y mae oedi wrth drosglwyddo cleifion o'r ambiwlans i'r ysbyty yn ei chael ar y gwasanaeth, gan gyfyngu ar nifer yr ambiwlansys sydd ar gael a'u gallu i ymateb i achosion brys. 
Codwyd pryderon hefyd o ran cysondeb adrodd am ddigwyddiadau, a bod angen i'r Ymddiriedolaeth sicrhau dealltwriaeth gyson o'r hyn sy'n ddigwyddiad y dylid rhoi gwybod amdano. 

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Mae ein hadolygiad yn gwneud 27 o argymhellion ynglŷn â sut y gallai Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wella ei gwasanaeth. 

Gwelsom fod oedi wrth drosglwyddo cleifion rhwng ambiwlansys a'r ysbyty yn digwydd yn rheolaidd, gan gyfyngu ar nifer yr ambiwlansys oedd ar gael ac effeithio ar allu'r Ymddiriedolaeth i ymateb i'r galw yn amserol. Gall hyn gael effaith andwyol ar ganlyniadau i gleifion ac mae angen i'r Ymddiriedolaeth ddatrys y mater. 

Er ei bod yn amlwg bod staff yn gweithio'n galed, yn aml mewn amgylchiadau anodd a heriol, mae ein hadolygiad wedi nodi y gall Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wneud rhagor i ganolbwyntio ar lesiant ei staff, a sicrhau eu bod yn barod i gyflawni eu rolau yn fwy effeithiol. 

Gobeithio y bydd canfyddiadau'r adolygiad hwn yn helpu i wella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.