Neidio i'r prif gynnwy

Mae AGIC yn dynodi Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn Wasanaeth Sydd Angen Gwelliant Sylweddol

Yn unol â’n proses gwasanaeth sy’n peri pryder yn y GIG, mae Adran Achosion Brys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Ysbyty Glan Clwyd wedi’i dynodi gan AGIC fel Gwasanaeth Sydd Angen Gwelliant Sylweddol.

Mae dynodiad Gwasanaeth Sydd Angen Gwelliant Sylweddol yn ein galluogi i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau yn y dyfodol sy'n angenrheidiol i gael sicrwydd am ansawdd a diogelwch y gofal yn y gwasanaeth hwnnw. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwelliannau yn cael eu gwneud mewn modd amserol. Yna byddwn yn ystyried a ellir isgyfeirio'r gwasanaeth a'i dynnu o'r broses hon.

Cyflwynwyd ein proses gwasanaeth sy'n peri pryder ar gyfer y GIG ym mis Tachwedd 2021. Fe’i defnyddir pan fyddwn yn nodi methiannau sylweddol yn y gwasanaeth, neu pan fo pryderon am wasanaeth neu leoliad yn cronni. Bwriad y broses hon yw cefnogi gwelliant a dysgu, i'r gwasanaeth dan sylw ac ar draws gwasanaethau’r GIG yn ehangach.

Gellir gweld mwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar ein gwefan.