Rydym yn recriwtio Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn.
Pan fydd ysbyty cyfrifol y claf yn gofyn am hynny, bydd y Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl yn trefnu i feddyg annibynnol roi ail farn, a elwir yn Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD), os nad yw'r claf yn gallu neu'n fodlon cydsynio i'w driniaeth. Mae hwn yn ofyniad statudol sy'n cael ei wneud ar ran Gweinidogion Cymru.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn
Cyflwynodd Deddf Iechyd Meddwl 1983 y gwasanaeth Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn i ddiogelu hawliau cleifion a gedwir dan y Ddeddf, sydd naill ai'n gwrthod y driniaeth a ragnodwyd gan y clinigwr cymeradwy, neu y bernir nad yw'n alluog i gydsynio. O Dachwedd 2008, cyflwynodd y Ddeddf Iechyd Meddwl ddiwygiedig fesurau diogelu ychwanegol yn ymwneud â thriniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth a therapi electrogynhyrfol.
Nid rôl y SOAD yw rhoi ail farn glinigol yn y ffurf feddygol a ddeallir yn gonfensiynol, ond penderfynu a oes modd amddiffyn y driniaeth a argymhellir yn glinigol ac hefyd os oes ystyriaeth ddyladwy wedi cael ei rhoi i farn a hawliau'r claf.
Mae'r Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn yn seiciatrydd ymgynghorol annibynnol a benodwyd gan AGIC i ymgymryd â'r swyddogaeth statudol hon ar ran Gweinidogion Cymru, a dim ond 'dod' yn SOAD pan gaiff ei benodi i roi ail farn ar unigolyn. AGIC sy'n gyfrifol am benodi SOADs ac am yr Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 30 Mai 2024.
Gellir cael manylion llawn am y swydd a manylion sut i wneud cais yn y dogfennau isod.
Manyleb Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD)
Dogfennau
-
2024 - Ffurflen Gais - Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD) , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 184 KBCyhoeddedig:184 KB
-
2024 - Ffurflen Gais Profforma - Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD) , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 41 KBCyhoeddedig:41 KB